1Yr henuriaid sydd yn eich plith a annogaf fi, eu cydhenuriad a thyst o ddyoddefiadau Crist, ac yn gyfranog o’r gogoniant a ddadguddir:
2Porthwch braidd Duw sydd eich plith, gan oruwchwylio, nid o orfod, ond yn wirfoddol; nid er mwyn budrelw, ond o haelfryd;
3nid chwaith fel yn tra-arglwyddiaethu ar ei etifeddiaethau, ond gan fod yn gynlluniadau i’r praidd:
4a phan ymddangoso y Penbugail, cewch dderbyn coron anniflanedig y gogoniant.
5Yn yr un modd yr ieuengaf ymostyngwch i’r henaf; ac ymostyngwch bawb i’ch gilydd; addurner chwi oddifewn â gostyngeiddrwydd; o herwydd gwrthwyneba Duw y beilchion, a rhydd rad i’r gostyngedig.
6Byddwch gan hyny yn ostyngedig tan law gadarn Duw, fel y derchafo chwi mewn pryd;
7gan daflu arno eich holl ofal, o herwydd gofala am danoch.
8Byddwch gymedrol, gwyliwch; oblegid eich gwrthwynebwr Diafol, rhodia oddiamgylch fel llew rhuadwy, gan geisio y neb a allo lyncu:
9yr hwn gwrthwynebwch, yn ddiysgog yn y ffydd; gan wybod y dyoddefir yr un blinderau gan eich brodyr ydynt yn y byd.
10A Duw pob rhad, yr hwn a’ch geilw, wedi dyoddef o honoch ychydig, i’w ogoniant tragywyddol trwy Iesu Grist, perffeithied, cadarnhäed, cryfhäed, sefydled chwi:
11Iddo y bo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12Gyda Silfan, eich brawd ffyddlawn, fel y tybiaf, yr ysgrifenais mewn ychydig eiriau, gan eich annog, a thystiolaethu mai gwir rad Duw yw yr hwn y sefwch ynddo.
13Anercha chwi y rhai ydynt gydetholedigion yn Babilon, a Marc fy mab.
14Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Heddwch i chwi oll ydych yn Nghrist Iesu. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.