Hosea 4 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD IV.

1Gwrandewch air yr Arglwydd, blant Israel,

Gan fod dadl gan yr Arglwydd â thrigolion y wlad;

Am nad oes gwirionedd, na thrugaredd,

Na gwybodaeth o Dduw, yn y wlad:

2Tyngu, a chelwydda, a lladd,

Lladrata hefyd a godinebu, a dorasant allan,

A gwaed a gyffyrddodd â gwaed.

3O herwydd hyn y galara y wlad,

A nycha pob trigiannydd ynddi,

Ynghyd â bwystfil y maes ac adar y nefoedd;

A physg y môr hefyd a ddyfethir.

4Eto dyn ni rybuddia ac ni cherydda ddyn;

A’th bobl ydynt megys yn amddiffynwyr yr offeiriaid.

5Ond syrthio a wnai y dydd,

A syrthia hefyd y prophwyd gyda thi yn y nos,

A dyfethu a wnaf dy fam.

6Dyfethir fy mhobl o eisieu gwybodaeth;

Gan wrthod o honot wybodaeth,

Felly gwrthodaf di o fod yn offeiriad i mi;

Ac am i ti anghofio deddf dy Dduw,

Anghofio dy blant di a wnaf finnau.

7Yn ol eu lliosogiad, felly y pechasant i’m herbyn;

Eu gogoniant a droaf i warth.

8Pech-aberth fy mhobl a fwytânt,

Ac at eu hanwiredd y dyrchafant eu calon.

9A bydd megys y bobl, felly yr offeiriad;

Ïe, ymwelaf arno ei ffyrdd,

A’i weithredoedd a ddychwelaf iddo:

10Canys bwytânt, ond nis digonir hwynt;

Puteiniant, ond ni chynnyddant,

Oblegid wrth yr Arglwydd gommeddasant gadw.

11Puteindra, a gwin, a gwin newydd,

Dygant ymaith y galon.

12Fy mhobl — gan eu pren y gofynant,

A’u ffon — traetha iddynt;

O herwydd ysbryd puteindra a’u gwyrdrôdd,

A phuteiniasant, gan ymadael â’u Duw;

13Ar benau mynyddoedd yr aberthant,

Ac ar fryniau yr arogldarthant,

O tan y dderwen a’r aethnen a’r llwyfen,

Gan mai hyfryd eu cysgod:

O herwydd hyn, puteinia eich merched,

A’ch gwragedd — godinebant:

14Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont,

Nac â’ch gwragedd pan odinebont;

Oblegid hwy eu hunain — gyda phuteiniaid yr ymddidolant,

A chyda hoedenod yr aberthant;

A’m pobl na ddeallant a ddadymchwelir.

15Os puteiniaist ti, Israel,

Na throsedded Iowda:

Nac ewch i Gilgal,

Nac esgynwch chwaith i Bethafan,

Ac na thyngwch, “Byw yw’r Arglwydd.”

16Fel anner wrthdyn y gwrthdynodd Israel;

Yn awr portha’r Arglwydd hwynt fel oen mewn ëang le.

17Yn glynu wrth eilunod y mae Ephraim, gâd iddo:

18Gwrthdrôdd hwynt eu diod gadarn;

Gan buteinio y puteiniasant;

Gan garu carodd ei hamddiffynwyr warth.

19Rhwymodd y gwynt hi yn ei adenydd;

A chywilyddiant o herwydd eu haberthau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help