Hosea 2 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD II.

1Dywedwch wrth eich brodyr, “Fy mhobl;”

Ac wrth eich chwiorydd, “Trugaredd.”

2Ymddadleuwch â’ch mam, ymddadleuwch

(Canys hi — nid fy ngwraig i yw;

Minnau — nid ei gŵr hi ydwyf);

Fel y symudo ei phuteindra o’i gwyneb,

A’i godineb oddi rhwng ei bronau;

3Rhag y dïosgwyf hi yn noeth,

Ac y gadäwyf hi fel yn nydd ei genedigaeth,

Ac y gwnelwyf hi fel y diffeithwch,

Ac y gosodwyf hi fel tir sych,

Ac y lladdwyf hi â syched,

4Ac na thrugarhawyf wrth ei phlant,

Am mai plant puteindra ydynt.

5Gan y puteiniodd eu mam,

Y parodd warth, yr hon a’u hymddygodd, —

Gan y dywedodd, “Af ar ol fy nghariadau,

Sy’n rhoddi fy mara a’m dwfr,

Fy ngwlan a’m llin,

Fy olew a’m dïodydd;”

6O herwydd hyn, wele mi a gauaf dy ffordd â drain;

Ïe, muriaf fur, fel na chaffo ei llwybrau;

7A dilyn a wna ei chariadau, ond ni oddiwedda hwynt;

A chais hwynt, ond nis caiff:

Yna dywed, “Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf;

Canys gwell oedd arnaf y pryd hyny nag yn awr.”

8Ond hi ni wyddai mai myfi

A roddasai iddi yr yd a’r gwin a’r olew,

Ac a amlhasai iddi yr arian a’r aur,

A gyflwynasant i Baal:

9Am hyn dychwelaf a chymeraf ymaith

Fy yd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymmor;

A dygaf ymaith fy ngwlan a’m llin,

Oeddent er cuddio eu noethni.

10Y pryd hyn hefyd dadguddiaf ei ffolineb

O flaen llygaid ei chariadau;

Ac ni wared neb hi o’m llaw:

11A dyddymaf ei holl orfoledd, —

Ei chylch wyl, ei newydd loer,

A’i Sabboth, a phob ymgynnull arbennig;

12Difrodaf hefyd ei gwinwydden a’i ffigysbren,

Y rhai y dywedodd am danynt, —

“Y rhai’n sydd genyf, canys rhoddodd fy nghariadau hwynt i mi;”

Am hyny troaf hwynt yn goedwig,

Fel y bwytao hwynt fwystfil y maes:

13Ymwelaf arni hefyd ddyddiau Baalim,

Y rhai yr arogldarthodd iddynt,

Pan y gwisgodd ei modrwy a’i thlws,

Ac y rhodiodd ar ol ei chariadau,

Ac yr anghofiodd fi, medd yr Arglwydd.

14O herwydd hyn, wele myfi a’i denaf,

Ac a’i dygaf i’r anialwch;

Yna llefaraf yn garedig wrthi,

15A rhoddaf iddi ei gwinllanoedd oddi yno,

A dyffryn Achor yn ddrws gobaith;

A chân yno fel yn nyddiau ei hieuenctid,

Ac fel yn nydd ei hesgyniad o wlad yr Aipht.

16A bydd yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd,

Y geilw fi, “Fy ngŵr;”

Ac ni eilw fi mwyach, “Fy Maal:”

17Ïe, tynaf enwau Baalim o’i genau,

Fel nas coffëir hwynt mwyach wrth eu henwau:

18Gwnaf erddynt hefyd gyfammod, y dydd hwnw,

A’r anifel y maes, ac â’r adar y nefoedd,

Ac â’r ymlusgiad y ddaear;

A’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel

A doraf ymaith o’r wlad;

A pharaf iddynt orwedd mewn dïogelwch.

19A dyweddïaf di i mi fy hun yn dragywydd,

Ïe, dyweddïaf di i mi fy hun

Mewn cyfiawnder ac mewn barn,

Mewn trugaredd hefyd, ac mewn tosturiaethau;

20Ïe, dyweddïaf di i mi fy hun mewn ffyddlondeb;

Ac adnabyddi yr Arglwydd.

21A bydd yn y dydd hwnw yr atebaf, medd yr Arglwydd —

Yr atebaf y nefoedd,

Hwythau a atebant y ddaear,

22A’r ddaear a ateb yr yd a’r gwin a’r olew,

A hwythau a atebant Iesreel:

23Canys hauaf hi i mi fy hun yn y tir,

A thrugarhaf wrth “Heb-drugaredd,”

A dywedaf wrth “Nid-fy-mhobl,”

Fy mhobl ydych chwi,

A hwy a ddywedant, “Ein Duw ni ydwyt ti.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help