1Ond bydd yn niwedd y dyddiau,
Y bydd mynydd tŷ Iehofa
Yn cael ei osod yn ben y mynyddoedd,
A dyrchefir ef uwchlaw y bryniau;
A phobloedd a ddylifant iddo;
2Ac ä cenedloedd lawer, a dywedant,
“Deuwch ac esgynwn i fynydd Iehofa,
Ac i dŷ Duw Iacob;
A dysg i ni ei ffyrdd,
A rhodiwn yn ei lwybrau:”
Canys o Sïon y daw allan gyfraith,
A gair Iehofa o Ierusalem;
3A barna rhwng pobloedd lawer,
A cherydda genedloedd cedyrn hyd ymhell;
A churant eu cleddyfau yn sychau,
A’u gwaewffyn yn bladuriau;
Ni chyfyd cenedl yn erbyn cenedl gleddyf,
Ac ni ddysgant mwyach ryfel;
4Ond eisteddant pob un dan ei winwydden,
A than ei ffigysbren, heb neb yn peri dychryn;
Canys genau Iehofa y lluoedd a lefarodd hyn;
5Canys yr holl bobloedd sy’n rhodio,
Pob un yn enw ei dduw ei hun,
A ninnau hefyd, rhodio a wnawn
Yn enw Iehofa ein Duw dros oesoedd a byth.
6Yn y dydd hwnw, medd Iehofa,
Casglaf y gloff, a’r gwasgaredig a gynnullaf,
A’r hon a gystuddiais;
7A gwnaf y gloff yn weddill,
A’r hon a yrwyd ymhell yn genedl gref;
A theyrnasa Iehofa arnynt,
Yn mynydd Sïon, o’r pryd hyn hyd byth.
8A thi, tŵr y praidd, caer merch Sïon,
I ti y dygwydd;
Ië, daw y llywodraeth flaenorol —
Y deyrnas, i ferch Ierusalem.
9Yn awr, pam y gwaeddi waedd?
Ai nid oes brenin genyt?
A yw dy gynghorydd wedi marw?
Canys cymerodd di wewyr
Fel eiddo gwraig wrth esgor.
10Bydd mewn gwewyr a gruddfana,
Ferch Sïon, fel gwraig wrth esgor;
Canys allan yr ëi yn awr o’r ddinas,
A thrigi yn y maes, ac ëi hyd Babylon:
Oddiyno y gwaredir di,
Yno yr achub Iehofa di o law dy elynion.
11Ond yn awr ymgasglodd yn dy erbyn
Genedloedd lawer, y rhai a ddywedant,
“Haloger hi, ac edryched ar Sïon ein llygaid.”
12Ond hwy, ni wyddant fwriadau Iehofa,
Ac ni ddeallant ei gynghor;
Canys casgla hwynt fel ysgubau i’r llawrdyrnu:
13Cyfod a dyrna, ferch Sïon,
Gan y gwnaf dy gorn yn haiarn,
A’th garnau a wnaf yn bres,
Fel y drylliot bobloedd lawer;
A chysegri i Iehofa eu helw,
A’i meddiannau i Arglwydd yr holl ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.