1Yn awr ymfyddina ferch y fyddin,
Gosod gynllwyn yn ein herbyn:
A gwialen y tarawant ar y gern farnwr Israel.
2Ond ti Fethlehem Ephrata,
Bychan i fod ymhlith miloedd Iowda,
O honot y daw un allan i mi,
I fod yn llywodraethwr yn Israel;
A’i fynediad allan sydd er y cynfyd,
Er dyddiau yr oesoedd.
3Am hyny rhydd hwynt i fyny,
Hyd y pryd yr esgoro yr hon sydd i esgor,
Ac y dychwelo gweddill ei frodyr at feibion Israel.
4Yna saif a phortha, yn nerth Iehofa,
Yn mawrhydi enw Iehofa ei Dduw;
A dychwelant, canys y pryd hyn mawr a fydd
Hyd eithafoedd y ddaear;
Ac efe a fydd yn heddwch.
5Yr Assyriad, pan ddelo i’n gwlad,
A phan sango yn ein palasau,
Yna cyfodwn yn ei erbyn saith bugail,
Ac wyth ddyn eneiniog;
6A difrodant wlad yr Assyriad â’r cleddyf,
A gwlad Nimrod yn ei chyffiniau:
Ië, gwaredir ni rhag yr Assyriad,
Pan ddelo i’n gwlad,
A phan sango yn ein terfyn.
7A bydd gweddill Iacob ymhlith pobloedd lawer
Megys gwlith oddiwrth Iehofa,
Megys mân wlaw ar laswellt;
Yr hwn nid erys wrth ddyn,
Ac ni ddysgwyl wrth feibion dynion.
8Bydd hefyd weddill Iacob ymhlith cenedloedd,
Yn nghanol pobloedd lawer,
Fel llew yn mysg bwystfilod y goedwig,
Ac fel cenaw llew ymhlith diadellau defaid;
Yr hwn, os ä trwodd, a sathra ac a larpia,
Heb neb i fod yn waredydd.
9Dyrchefir dy law ar dy orthrymwyr,
A’th holl elynion a dorir ymaith.
10A bydd yn y dydd hwnw, medd Iehofa,
Y toraf ymaith dy feirch o’th ganol di,
Ac y dinystriaf dy gerbydau;
11Toraf i lawr hefyd ddinasoedd dy wlad,
A dadymchwelaf dy holl gaerau;
12Ië, toraf ymaith swynion o’th derfyn,
A dewiniaid ni fyddant i ti;
13A thoraf ymaith dy gerf-ddelwau
A’th golofnau o’th ganol di,
Fel nad ymgrymot mwy i waith dy ddwylaw;
14Diwreiddiaf hefyd dy lwyni o’th ganol,
A dyfethaf dy addurniadau:
A gwnaf mewn dig ac mewn digllonedd,
Ymddial ar y cenedloedd,
Y rhai ni wrandawsant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.