1Yn yr un modd y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, fel y byddo iddynt, od oes neb heb ufuddhâu i’r gair, gael eu hennill heb y gair trwy ymarweddiad y gwragedd,
2wrth ganfod eich hymarweddiad diwair ynghydag ofn:
3y rhai, bydded eu haddurn, nid yr un allanol, o blethu gwallt, ac o amgylchu âg aur, neu o wisgo dillad;
4ond cuddiedig ddyn y galon, yn yr hyn sydd anllygredig, yr addurn o ysbryd addfwyn a dystaw, yr hwn sydd ger bron Duw yn dra gwerthfawr.
5Oblegid felly gynt hefyd yr addurnai eu hunain y gwragedd diwair a obeithient yn Nuw, gan fod yn ostyngedig i’w gwŷr priod;
6megys Sara, yr hon a ufuddhäodd i Abraham, gan ei alw yn Arglwydd: yr hon, ei merched ydych, tra y gwneloch yr hyn sydd dda, ac nac ofnwch unrhyw fraw.
7Y gwŷr yn yr un modd, cydgyfanneddwch â hwynt yn ol gwybodaeth, gan roddi anrhydedd i’r gwragedd megys i’r llestr gwanaf, ac megys i’r rhai a gydetifeddant rad y bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau.
8Yn ddiweddaf, byddwch oll o gyffelyb feddwl, yn cydymdeimlo, yn frawdgar, yn dynergalon, yn gyfeillgar;
9nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen; ond yn y gwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod y galwyd chwi i hyn, sef fel yr etifeddoch fendith.
10“Oblegid y neb a fyno garu bywyd a gweled dyddiau da, cadwed ei dafod oddiwrth ddrwg a’i wefusau rhag llefaru twyll;
11gocheled ddrwg a gwnaed dda, ceisied heddwch a dilyned ef.
12O herwydd llygaid yr Arglwydd ydynt ar y cyfiawn, a’i glustiau tuag at eu gweddi; ond wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wnant ddrwg.”
13A phwy a’ch dryga os gwnewch ddilyn yr hyn sydd dda?
14Ond os y dyoddefwch hefyd o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych; a rhag eu hofn nac ofnwch, ac na chynhyrfer chwi;
15ond sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonau; a byddwch barod bob amser i ateb pob un, a ofyno air ynghylch y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn;
16gan gadw cydwybod dda, fel yn gymaint ag yr absenant chwi fel drwgweithredwyr, y cywilyddio y rhai a gamgyhuddant eich ymarweddiad da yn Nghrist.
17Canys gwell dyoddef, os myn ewyllys Duw, am wneuthur da, nag am wneuthur drwg:
18oblegid Crist hefyd unwaith a ddyoddefodd dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, gan gael ei farwolaethu yn y cnawd, ond ei fywhâu gan yr Ysbryd:
19yr hwn hefyd yr aethai trwyddo, ac y pregethasai i’r ysbrydion yn awr yn ngharchar,
20gynt yn anufudd, pan yr arosodd wrthynt hiramynedd Duw yn nyddiau Noa, tra darparid yr arch, yr hon yr achubwyd ynddi ychydig o eneidiau, sef wyth, trwy ddwfr;
21yr hwn y gwna arwydd gyferbyniol iddo, sef bedydd, ein hachub ni (nid bwrw ymaith fudreddi y cnawd, ond amodiad cydwybod dda tuag at Dduw) trwy adgyfodiad Iesu Grist;
22yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i’r nefoedd, angelion a goruchafiaethau a galluoedd yn ddarostyngedig iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.