1 Ioan 2 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PEN. II.

1Fy mhlant anwyl! y pethau hyn a ysgrifenaf atoch fel na phechoch: ac os pecha neb, y mae genym Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y cyfiawn;

2ac Iawn yw Efe dros ein pechodau, ac nid dros yr eiddom ni yn unig, ond hefyd dros eiddo’r holl fyd.

3Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenwn Ef, os cadwn ei orchymynion.

4Yr hwn a ddywed, “Adwaenaf Ef,” ac ni cheidw ei orchymynion, celwyddog yw, a’r gwir nid yw ynddo:

5ond pwy bynag a gadwo ei air, yn hwn yn wirioneddol y perffeithiwyd cariad Duw: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo.

6Yr hwn a ddywed yr erys ynddo, dylai efe ei hun felly rodio fel y rhodiodd Efe.

7Frodyr! nid gorchymyn newydd a ysgrifenaf atoch, ond hen orchymyn, a fu genym o’r dechreu: yr hen orchymyn yw y gair a glywsoch o’r dechreu.

8Trachefn, gorchymyn newydd a ysgrifenaf atoch; yr hyn sydd wir o’i ran Ef ac o’ch rhan chwi: oblegid aeth heibio y tywyllwch, a thywyna yn awr y gwir oleuni.

9Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac yn casâu ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn.

10Yr hwn a gâr ei frawd, erys yn y goleuni, ac iddo nid oes dramgwydd:

11ond yr hwn a gasâ ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y rhodia; ac ni ŵyr i ble yr â, oblegid dallodd y tywyllwch ei lygaid.

12Ysgrifenaf atoch chwi, anwyl blant, oblegid maddeuwyd i chwi eich pechodau er mwyn ei enw Ef; —

13ysgrifenaf atoch chwi, dadau, oblegid adnabuasoch yr hwn sydd o’r dechreu; ysgrifenaf atoch chwi, ieuainc, oblegid gorchfygasoch yr un drwg; ysgrifenaf atoch chwi, fabanod, oblegid adnabuasoch y Tad; —

14Ysgrifenais atoch chwi, dadau, oblegid adnabuasoch yr hwn sydd o’r dechreu; ysgrifenais atoch chwi, ieuainc, oblegid cryfion ydych, ac erys gair Duw ynoch, a gorchfygasoch yr un drwg; —

15Na cherwch y byd, na’r pethau ydynt yn y byd: os câr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo:

16oblegid pob peth sydd yn y byd, chwant y cnawd, a chwant y llygaid a rhodres bywyd, nid ydynt o’r Tad, ond o’r byd y maent:

17a’r byd sy’n myned heibio a’i chwant hefyd; ond yr hwn a wna ewyllys Duw, a erys yn dragywydd.

18Blant anwyl! yr awr ddiweddaf ydyw; ac fel y clywsoch y deuai y gwrthgrist, y mae hefyd yn awr Wrthgristiau lawer: wrth hyn y gwyddom mai yr awr ddiweddaf ydyw.

19Oddiwrthym yr aethant allan; ond nid oeddent o honom; canys pe buasent o honom, arosasent gyda ni: ond aethant allan, fel yr amlygid hwynt, nad oeddent oll o honom.

20Ond chwi, y mae genych eneiniad oddiwrth yr Un sanctaidd, a gwyddoch bob peth.

21Nid ysgrifenais atoch, am na wyddech y gwirionedd; ond am y gwyddech ef, ac am bob peth anwir, nad yw o’r gwirionedd.

22Pwy yw yr anwir, onid yr hwn a wada mai Iesu yw Crist? hwn sydd Wrthgrist, yn gwadu Tad a’r Mab.

23Pob un a wada y Mab, nid yw y Tad ganddo chwaith: ond yr hwn a gyfaddef y Mab, y mae y Tad ganddo hefyd.

24Chwi gan hyny, arosed ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreu: os erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreu, chwi hefyd a aroswch yn y Mab ac yn y Tad.

25A hon yw’r addewid yr hon a addawodd Efe i ni, sef bywyd tragywyddol.

26Y pethau hyn a ysgrifenais atoch ynghylch y rhai a’ch hudant:

27ond chwi, yr eneiniad a dderbyniasoch ganddo, syn aros ynoch; ac nid oes anghen arnoch i neb eich dysgu: ond fel ag y dysg yr un eneiniad chwi am bob peth, a’i fod yn wir ac nid yn anwir, ac fel ag y dysgodd chwi, aroswch ynddo.

28Ac yn awr, blant anwyl, aroswch ynddo, fel pan ymddangoso y byddo genym hyfdra, ac na chywilyddiom ger ei fron ar ei ddyfodiad.

29Os gwyddoch mai cyfiawn yw, gwyddoch y ganwyd o hono bob un a wna gyfiawnder.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help