Hosea 1 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD I.

1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri,

yn nyddiau Usia, Iotham, Achas, Hesecia, breninoedd

Iowda, ac yn nyddiau Ieroboam, mab Ioas, brenin Israel.

2Dechreu gair yr Arglwydd trwy Hosea oedd, pan ddywedodd

yr Arglwydd wrth Hosea, —

Dos, cymer iti wraig buteinllyd a phlant puteinllyd;

Canys gan buteinio puteinia y wlad,

Yn hytrach na myned ar ol yr Arglwydd.

3Yna aeth a chymerodd Gomer, merch Diblaim;

4A beichiogodd hi a dygodd iddo fab: a dywedodd yr

Arglwydd wrtho, —

Galw ei enw Iesreel;

Canys yn mhen ychydig ymwelaf

Waed Israel ar dŷ Iehw,

A therfynaf deyrnas tŷ Israel:

5A bydd ar y dydd hwnw,

Y toraf fwa Israel yn nyffryn Iesreel.

6A beichiogodd hi eilwaith a dygodd ferch; ac efe a ddywedodd

wrtho, —

Galw ei henw, “Heb-drugaredd;”

Canys ni chwanegaf eto drugarhau wrth dŷ Israel,

Fel gan faddeu y maddeuwyf iddynt:

7Ond wrth dŷ Iowda mi a drugarhaf;

Ië, achubaf hwynt trwy’r Arglwydd eu Duw;

Ac ni wnaf eu hachub trwy fwa, neu gleddyf,

Neu ryfel, neu feirch, neu farchogion.

8Pan ddyddyfnodd hi “Heb-drugaredd,” yna beichiogodd a

9dygodd fab: ac efe a ddywedodd, —

Galw ei enw, “Nid fy mhobl;”

Canys chwi nid fy mhobl ydych;

Minnau ni fyddaf yn Dduw i chwi:

10Eto bydd nifer plant Israel fel tywod y môr,

Yr hwn nis mesurir ac nis cyfrifir;

A bydd yn y man lle y dywedir wrthynt,

“Nid fy mhobl ydych,”

Y gelwir hwynt yn blant y Duw byw:

11A chesglir plant Iowda a phlant Israel ynghyd,

A gosodant arnynt un Pen,

Ac esgynant o’r wlad.

O herwydd mawr fydd dydd Iesreel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help