1Pan yn fachgen oedd Israel, caraswn ef;
Ac o’r Aipht y gelwais fy mab.
2Galwasant arnynt yr un modd,
Aethant ymaith oddiwrthynt;
I Baalim yr aberthant,
Ac i ddelwau yr arogldarthant.
3Ond myfi — dysgais Ephraim i gerdded,
Gan eu cymeryd erbyn eu breichiau:
Eto ni chydnabyddant ddarfod i mi eu hadferu:
4A rhwymynau dyn y tynais hwynt,
A llinynau cariad;
A buais iddynt fel y rhai
A godant yr iau ar eu bochgernau;
Ac estynais iddo fwyd.
5Ni ddychwel i wlad yr Aipht;
Ond yr Assyriad — efe fydd ei frenin;
O herwydd gwrthodasant ddychwelyd.;
6Ac erys y cleddyf ar ei ddinasoedd,
A difroda ei ddiffynion,
Ïe, difäaf hwynt, o herwydd eu cynghorion.
7A’m pobl — penderfynant wrthgilio oddiwrthyf;
Ond am y iau galwant arno ynghyd;
Ni symudir hi ymaith.
8P’odd y rhoddaf di i fyny, Ephraim —
Y bwriaf di ymaith, Israel?
P’odd y gallaf dy wneyd fel Adma —
Y gallaf dy osod fel Seboim?
Dadymchwelir ynof fy nghalon,
Ynghyd y dirwynir fy edifariadau.
9Ni chyfiawnaf angerdd fy nigder,
Ni ddychwelaf i ddinystrio Ephraim;
Canys Duw ydwyf, ac nid dyn,
Yn dy ganol di, yn sanctaidd;
Ac ni ddeuaf i mewn i’r ddinas.
10Ar ol yr Arglwydd yr änt;
Fel llew y rhua:
O herwydd efe — rhuo a wna,
A dychryna meibion o’r gorllewin, —
11Dychrynant, fel aderyn, yn yr Aipht,
Ac fel colomen, yn nhir Assyria,
A pharaf iddynt orphwys yn eu tai, medd yr Arglwydd.
12Amgylchai Ephraim fi â chelwydd,
Ac â dichell, dŷ Israel;
Tra yr oedd Iowda eto yn llywodraethu gyda Duw,
Ac yn nghyd â’r saint yn ffyddlawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.