1Pan yr oeddwn yn iachâu Israel,
Yna dadguddiwyd anwiredd Ephraim,
A drygioni Samaria;
Canys gweithredasant yn dwyllodrus;
A’r lleidr, daw i mewn;
Anrheithiodd yr yspeilydd oddiallan,
2Ac ni ddywedant wrth eu calon,
Y cofiaf eu holl ddrygioni:
Yn awr amgylcha hwynt eu gweithredoedd;
Ger bron fy wyneb y maent.
3Yn eu drygioni y llawenha’r breninoedd,
Ac yn eu celwyddau, y tywysogion.
4Hwynt oll ydynt odinebwyr!
Maent fel ffwrn a ennynir gan bobydd:
Gorphwysa rhag cynhyrfu,
Rhag tylino y toes hyd oni lefeinia.
5Dydd ein brenin! dechreuodd y tywysogion boethi gan win;
Estynodd efe ei law gyda gwatwarwyr!
6Pan nesasant, fel ffwrn oedd eu calon gan eu cynllwyn;
Yr holl nos cysgodd eu poethder,
Y bore fe a gynneuodd fel tân fflamllyd.
7Hwynt oll — ymboethant fel ffwrn;
A difasant eu barnwyr;
Eu holl freninoedd a syrthiasant:
Ac ni alwodd neb o’u herwydd arnaf fi.
8Ephraim — â’r cenedloedd yr ymgymysgodd efe;
Ephraim — daeth yn deisen heb ei throi:
9Difaodd estroniaid ei gryfder,
Ond efe nid yw yn gwybod;
Penwyni hefyd a ymdaenodd arno,
Ond efe nid yw yn gwybod;
10Ac iselhawyd balchder Israel sydd yn ei wyneb:
Ond ni ddychwelasant at yr Arglwydd eu Duw,
Ac ni cheisiasant ef er hyn oll.
11A bu Ephraim fel colomen wirion heb ddeall;
Ar yr Aipht y galwasant,
At yr Assyriad yr aethant.
12Pan yr elont, taenaf drostynt fy rhwyd;
Ac fel adar y nefoedd, dygaf hwynt i lawr;
Cosba hwynt fel y mynegwyd i’w cynnulleidfa,
13Gwae hwynt! o herwydd ffoisant oddiwrthyf;
Dinystr iddynt! o herwydd gwrthryfelasant i’m herbyn:
A Myfi — gwaredais hwynt;
Ond hwy — dywedasant wrthyf gelwyddau;
14Ac ni waeddant arnaf â’u calon,
Pan udant ar eu gwelyau:
Am yd a gwin newydd yr ymgasglant;
Troant yn fy erbyn.
15Wedi eu ceryddu, cryfheais eu breichiau;
Ond yn fy erbyn y dychymygant ddrwg;
16Dychwelant — nid ataf fi;
Maent fel bwa twyllodrus:
Syrthia gan y cleddyf eu tywysogion,
O herwydd rhyfyg eu tafod:
Hyn fydd yn wawd iddynt yn ngwlad yr Aipht.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.