Habacuc 2 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD II.

1Ar fy ngwylfa y safaf

Ac ymsefydlaf ar y tŵr;

A gwyliaf i weled beth a ddywed wrthyf,

A pheth a atebaf pan y’m cerydder. —

2Yna atebodd yr Arglwydd fi, a dywedodd, —

“Ysgrifena y weledigaeth,

A gwna hi yn eglur ar lechau,

Fel y gallo yr hwn a redo ei darllen;

3Canys y weledigaeth sydd eto dros amser,

Ond anadla yn y diwedd, ac ni thwylla;

Oes oeda, dysgwyl amdani,

O herwydd gan ddyfod y daw, nid ohiria;

Wele y diffygiol! nid uniawn ei galon ynddo;

4Ond y cyfiawn, trwy ei ffydd y bydd byw.”

5A dïau fod gwin yn twyllo’r cadarn,

Trahaus yw, ac ni orphwysa;

Ymhelaetha fel y bedd ei ddymuniad,

Ac fel angeu, ac nis digonir;

A chasgl ato ei hun yr holl genedloedd,

A chynnull ato ei hun yr holl bobloedd.

6Oni wna y rhai’n, bob un o honynt,

Gyfodi am dano ddammeg a dïareb,

Ië, gwawdeiriau amdano, a dywedyd, —

“Ho! llïosoga yr hyn nad yw ei eiddo! pa hyd!

A phentyra arno ei hun glai lawer!

7Onid yn sydyn y cyfyd dy frathwyr

Ac y deffry dy boenydwyr,

Ac y deui yn ysglyfaeth iddynt?

8Am i ti anrheithio cenedloedd lawer,

Anrheithia di holl weddill y bobloedd,

O herwydd gwaed dynion, a gormesu y wlad,

Y ddinas a phawb a drigent ynddi.

9“Ho! chwennycha chwant drwg i’w dŷ,

Er gosod yn uchel ei nyth,

Fel y gwaredo ei hun o law adfyd! —

10Trefnaist waradwydd i’th dŷ,

Trwy dori ymaith bobloedd lawer,

A phechu yn erbyn dy hun:

11Canys y gareg o’r mur a lefa,

A’r trawst o’r coedadail a’i hetyb, —

12“Ho! adeilada dref â gwaed!

A sefydla ddinas trwy ormes!”

13Onid yw hyn oddiwrth Arglwydd y lluoedd —

Yr ymboena’r bobloedd yn yr hyn a losgir,

Ac yr ymflina y cenedloedd mewn peth ofer?

14Canys llenwir y ddaear

A gwybodaeth o ogoniant yr Arglwydd,

Fel y dyfroedd a ymdaenant dros y môr.

15“Ho! gwna i’w gyfaill yfed! —

Gan roddi iddynt dy gostrel, ac hefyd ddïod gadarn,

Fel yr edrychit ar eu noethni,

16Digonaist hwynt â gwarth yn lle gogoniant:

Yf dithau fel y dynoether dy flaengroen;

Troir iti gwpan deheulaw yr Arglwydd,

A chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant:

17Canys gormesu Lebanon a’th ddadymchwel,

Ac anrheithio anifeiliaid a’th ddryllia, —

O herwydd gwaed dynion a gormesu y wlad,

Y ddinas a phawb a drigent ynddi.

18“Pa fudd a wna y gerfddelw?

O herwydd ei cherfiwr a’i lluniodd;

Neu y dawdd-ddelw ac athraw celwydd?

O herwydd ymddiriedodd ynddi luniwr ei llun,

Er iddo wneyd delwau mudion!

19Ho! dywed wrth bren, ‘Cyfod, deffro;’

Wrth faen mud, ‘Efe a ddysg:’

Wele, hi a wisgwyd âg aur ac arian;

Eto nid oes anadl o’i mewn:

20Ond yr Arglwydd, yn ei deml santaidd y mae;

Tawed ger ei fron Ef yr holl ddaear.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help