Iago 4 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PEN. IV.

1O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith? onid oddiyma, oddiwrth eich chwantau a frwydrant yn eich aelodau?

2Chwantwch, ond nid ydych yn cael; lladdwch a chenfigenwch, ond nid ellwch gyrhaeddyd; ymladdwch a rhyfelwch, ond nid ydych yn cael, am na ofynwch:

3gofynwch, ond ni dderbyniwch, o herwydd gofynwch ar gam, fel y treulioch ef ar eich chwantau.

4Godinebwyr a godinebesau! oni wyddoch fod cariad at y byd yn gasineb gan Dduw? Pwy bynag gan hyny a fyno fod yn garwr byd, a gyfrifir yn elyn gan Dduw.

5A dybiwch y llefara’r Ysgrythyr yn ofer? ai at genfigen y tuedda’r Ysbryd a annedda ynom?

6Yn hytrach rhydd fwy o rad, o herwydd dywed, “Gwrthwyneba Duw y beilchion, ond rhydd rad i’r gostyngedig.”

7Ymostyngwch gan hyny i Dduw; gwrthwynebwch Ddiafol, a ffŷ oddiwrthych.

8Nesëwch at Dduw, ac atoch y nesâ; glanhewch eich dwylaw, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonau, chwi o feddwl dauddyblyg:

9ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch; tröer eich chwerthin i alar, a’ch llawenydd i dristwch;

10ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, a derchafa chwi.

11Na absenwch eich gilydd, frodyr: yr hwn a abseno ei frawd ac a farno ei frawd, absena y ddeddf a barna y ddeddf; ac os berni y ddeddf, nid wyt wneuthurwr o’r ddeddf ond yn farnydd.

12Un Deddfroddwr a Barnydd sydd, yr hwn a ddichon achub a chollfarnu: pwy wyt ti a ferni arall?

13Clywch yn awr y rhai a ddywedwch, “Heddyw neu yfory awn i’r cyfryw ddinas, ac aroswn yno flwyddyn, a marchnadwn ac ennillwn;”

14ond ni wyddoch beth a fydd yfory, canys beth yw eich bywyd? tarth yn ddiau ydyw, a ymddengys dros ychydig, ac yna diflana:

15yn lle hyn dylech ddywedyd, “Os myn yr Arglwydd, yna byw fyddwn a gwnawn hyn neu hyny.”

16Ond yn awr ymffrostio a wnewch yn eich rhyfyg: pob cyfryw ymffrost, drwg ydyw.

17Am hyny y neb a wyddo wneuthur da, ac nis gwnelo, pechod yw iddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help