1 Ioan 3 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PEN. III.

1Gwelwch pa gymmaint cariad a ddangosodd y Tad i ni, fel y gelwid ni yn blant Duw! Am hyn nid edwyn y byd ni, am nad adwaenodd Ef.

2Anwyliaid, yn awr plant Duw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: ond gwyddom y byddwn, pan ymddangoso, yn gyffelyb iddo; oblegid cawn ei weled fel ag y mae.

3A phob un ag sydd ganddo y gobaith hwn, pura ei hun, megys ag y mae Efe yn bur.

4Pob un a wna bechod, a drosedda hefyd y ddeddf; oblegid pechod, trosedd o’r ddeddf ydyw:

5a gwyddoch iddo Ef ymddangos, fel y cymerai ymaith ein pechodau; ac ynddo nid oes bechod.

6Pob un a erys ynddo, ni phecha; pob un a becha, nis gwelodd Ef, ac nis adwaenodd Ef chwaith.

7Blant anwyl! na thwylled neb chwi; yr hwn a wna gyfiawnder cyfiawn yw, megys ag y mae Efe yn gyfiawn.

8Yr hwn a wna bechod, o ddiafol y mae; o herwydd pecha y diafol o’r dechreu: er mwyn hyn yr ymddangosodd Mab Duw, sef, fel y dattodai weithredoedd y diafol.

9Pob un a aned o Dduw, ni wna bechod, oblegid ei hâd a erys ynddo: ac nis gall bechu, oblegid ganwyd ef o Dduw.

10Wrth hyn y mae yn amlwg blant Duw a phlant y diafol — y neb ni wna gyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn ni châr ei frawd:

11oblegid hon yw y genadwri a glywsom o’r dechreu, bod i ni garu ein gilydd;

12nid fel Cain, yr hwn oedd o’r un drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? am fod ei weithredoedd yn ddrwg, ac eiddo ei frawd yn gyfiawn.

13Na ryfeddwch, fy mrodyr, os casâ y byd chwi:

14ni a wyddom ein symud o farwolaeth i fywyd am y carwn y brodyr; yr hwn ni châr ei frawd, a erys yn marwolaeth.

15Pob un a gasâo ei frawd, dynleiddiad yw; a gwyddoch nad oes gan ddynleiddiad fywyd tragywyddol yn aros ynddo.

16Wrth hyn yr adwaenwn gariad, oblegid rhoddodd Efe ei fywyd drosom; a dylem ninnau roddi ein bywydau dros y brodyr.

17Ond yr hwn sydd ganddo ddâ bydol, ac a welo ei frawd mewn eisieu, ac a gauo ei ymysgaroedd rhagddo, podd yr erys ynddo gariad Duw?

18Fy mhlant anwyl! na charwn ar air nac ar dafod yn unig, ond hefyd mewn gweithred a gwirionedd;

19ac wrth hyn y gwyddom ein bod o’r gwirionedd, ac y gwnawn ein calonau yn hyderus ger ei fron:

20oblegid os cyhudda ni ein calon, eto mwy yw Duw na’n calon, a gŵyr bob peth.

21Anwyliaid, os ni chyhudda ni ein calon, y mae genym hyder tuag at Dduw;

22a pheth bynag a ofynom, a dderbyniwn ganddo, am y cadwn ei orchymynion a gwnawn yr hyn sydd foddhäol yn ei olwg.

23A hwn yw ei orchymyn, gredu o honom yn enw ei Fab Ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, fel y rhoddodd orchymyn i ni.

24A’r hwn a geidw ei orchymynion, a erys ynddo Ef, ac Efe ynddo yntau: a thrwy hyn y gwyddom yr erys ynom, sef trwy’r Ysbryd a roddodd i ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help