1Pan ddaeth gair Iehofa at Iona yr eilwaith, gan ddywedyd, —
2“Cyfod, dos i Ninife, y ddinas fawr, a chyhoedda iddi y cyhoeddiad yr hwn a fynegaf i ti;”
3yna cyfododd Iona, ac aeth i Ninife yn ol gair Iehofa.
A Ninife oedd ddinas fawr iawn, taith tri diwrnod.
4Pan ddechreuodd Iona fyned trwy’r ddinas daith un diwrnod, yna gwaeddodd a cyhoeddodd, — “Deugain niwrnod, a Ninife a ddymchwelir!”
5A gwŷr Ninife a gredasant Dduw, a chyhoeddasant ympryd; gwisgasant hefyd sachlenau o’r mwyaf hyd y lleiaf o honynt:
6o herwydd daethai y gair at frenin Ninife; yna cyfododd o’i orsedd, a diosgodd ei wisg oddiam dano, a gwisgodd sachlen, ac eisteddodd yn y lludw:
7a gwaeddwyd a chyhoeddwyd trwy Ninife, yn ol gorchymyn y brenin a’i bendefigion, gan ddywedyd, —
“Dyn ac anifail, eidion a dafad,
Na phrofant ddim, na phorant, a dwfr nac yfant;
8A gwisger â sachlenau ddyn ac anifail;
Ië, galwant ar Dduw yn egnïol,
A thröant bob un oddiwrth ei ffordd ddrwg
Ac oddiwrth y treisiant sydd yn eu dwylaw:
9Pwy a ŵyr a dry ac yr edifarhâ Duw,
Ac y try oddiwrth angerdd ei ddigofaint,
Fel na’n dyfether.”
10Pan welodd Duw eu gweithredoedd, ddarfod iddynt droi oddiwrth eu ffordd ddrwg; yna edifarhäodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnai, ac nis gwnaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.