Galarnad Ieremia Galarnad Ieremia - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

Galarnad Ieremia Cyfansoddwyd y Galarnad, neu yn hytrach y Galarnadau, gwedi dadymchwelyd y wladwriaeth, dinystrio y Deml, a chaethgludo y trigolion i Babilon. Yr oedd Ieremia wedi gweled ei hun druenusrwydd y gwarchae, difrod y ddinas, a chyflwr adfydus y caethion: a dyma y pethau y galara o’u herwydd.Nid oes un cysylltiad rhwng y pum’ Galarnad â’u gilydd. Tebyg i Ieremia eu hysgrifenu ar amrywiol brydiau. Yr un pethau y galara am danynt yn y pedair pennod cyntaf, sef trallodau y bobl cyn i’r ddinas Syrthio, creulondeb eu gelynion, a’r difrod a wnaethant, a sefyllfa druenus y rhai a aethent i gaethiwed. Tebyg yw mai yn y bennod olaf y galara am gyflwr gwael ac adfydus y rhai a adawyd yn y wlad.Mae y pedair Galarnad cyntaf yn cynnwys bob un ddwy ddosbarth ar hugain, yn ol rhifedi llythyrenau yr egwyddor yn yr Hebraeg. Rhenir hwynt i ddwy ar hugain o adnodau, onid y drydedd Alarnad, yr hon hefyd a, ddylasai gael ei dosbarthu yn yr un modd. A, ar ddechreu yr adnod gyntaf; a B, yr ail; ac C, y drydedd; a D, y bedwaredd; ac felly hyd ddiwedd yr egwyddor. Cynnwys adnodau y tair Galarnad cyntaf chwech o linelli; ond yn y drydedd treblir y llythyren ymhob adnod; arferir A deirgwaith yn yr adnod gyntaf, a B deirgwaith yn yr ail adnod, ac felly hyd y diwedd. Ni chynnwys y bedwaredd Alarnad onid pedair llinell, a’r bummed, ddwy. Ond nid yw y ddiweddaf yn egwyddorig, sef yn dechreu yr adnodau yn ol trefn y llythyrenau yn yr Hebraeg. Dilynir trefn y llythyrenau yn gyson yn y bennod gyntaf, ond cyfnewidir lle dwy o honynt yn y tair a ganlynant; gosodir P o flaen O. Paham y gwnaed hyn nis gwyddir.Galarnad Ieremia
Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help