1Gair Iehofa, yr hwn a ddaeth at Mica y Morasthiad, yn
nyddiau Iotham, Achas, Hesecia, breninoedd Iowda, yr
hwn a welodd am Samaria ac Ierusalem, —
2Gwrandewch bobloedd, — bawb o honynt;
Clyw, wlad, ïe, oll sydd ynddi; —
Bydd, ïe, yr Arglwydd Iehofa yn eich erbyn yn dyst —
Yr Arglwydd o deml ei sancteiddrwydd:
3Canys wele Iehofa a ddaw allan o’i le;
Ië, disgyn a cherdda ar uchelfanau ’r wlad;
4A thawdd y mynyddoedd tano,
A’r glynoedd a ymholltant;
Fel cŵyr o flaen y tân,
Fel gan ddyfroedd yn rhuthro ar orwaered.
5Am drosedd Iacob y bydd hyn oll,
Ac am bechod tŷ Israel.
Beth yw trosedd Iacob? onid Samaria?
A pheth yw pechod Iowda? onid Ierusalem?
6Am hyny gwnaf Samaria yn garnedd y maes,
Yn blanigfaoedd gwinllan;
A pharaf dreiglo i’r dyffryn ei cheryg,
A’i sylfeini a ddadguddiaf:
7A’i holl gerf-ddelwau a ddryllir,
A’i holl wobrau a losgir yn y tân,
A’i holl eilunod a wnaf yn ddifrod;
Gan mai o wobr putain y casglodd hwynt,
Yn wobr putain hefyd y dychwelant.
8O herwydd hyn gwnaf iddi alaru ac udo,
Paraf iddi gerdded yn ddiosgedig ac yn noeth,
Gwnaf iddi alaru fel môrfilod,
Ac wylo fel estrysiaid:
9Canys anaele fydd ei dyrnod;
Yn ddiau y daw hyd at Iowda,
Gan nesau hyd at borth fy mhobl,
Hyd at Jerusalem.
10Yn Gath na fynegwch hyn,
Gan wylo na wylwch;
Yn nhŷ Ophrah mewn llwch ymdreigla;
11Dos erddot ymaith breswylferch Saphir,
Yn noeth dy warth;
Na aed allan breswylferch Sanan gan alaru;
Tŷ Asel, cymered genych ei sefyllfan:
12Diau dihoena am dda breswylferch Maroth,
Canys disgyn ddrwg oddiwrth Iehofa hyd borth Ierusalem;
13Rhwymed wrth y cerbyd
Y buan-farch, breswylferch Lacis;
Dechreuad pechod fu hi i ferch Sïon,
Canys ynot y cafwyd troseddiadau Israel;
14Am hyny y rhoddi anrhegion i Moreseth-Gath;
Tai Acsib, yn gelwydd fyddant i freninoedd Israel.
15Eto etifedd a ddygaf i ti, preswylferch Moresa;
Daw ef hyd Adulam, gogoniant Israel.
16Ymfoela ac eillia am blant dy hoffderau;
Ymhelaetha dy foelni fel yr eryr,
O herwydd mudwyd hwynt oddiwrthyt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.