1 Ioan EPISTOL CYNTAF IOAN — CYFFREDINOL. - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)
EPISTOL CYNTAF IOAN — CYFFREDINOL.TRI EPISTOL IOAN.Er nad yw enw Ioan ynglŷn wrth un o’r rhai hyn, eto y mae yr eirwedd, neu y modd o lefaru, yn gyfryw fel nad oes le i anmheu mai efe a’u hysgrifenodd. Mae hyn yn ddigon, pe na byddai un prawf arall. Ond cyfrifid y cyntaf iddo yn ddiwrthddadl o’r dechreu, a’r ddau arall gan y rhai mwyaf hyddysg a derbyniol yn mhob oes.Epistol cyffredinol yw y cyntaf, a ysgrifenwyd at Gristionogion, Iuddewon a Chenedloedd; er fod rhai wedi barnu, ond nid ar sail ddigonol, mai Iuddewon crediniol a olygai yn benaf. Am y ddau arall rhoir i ni enwau y rhai yr ysgrifenwyd atynt. “Y Bendefiges,” neu, “Arglwyddes,” yr ysgrifenodd ati, ni wyddys pwy ydoedd; ond tybia amryw mai ei henw oedd Eclecta, y gair a arwydda “etholedig,” fel ei cyfieithir yn gyffredin. Ond nid tebygol yw hyn, o herwydd cymhwysa yr un gair at ei chwaer, adn. 13. Am “Gaius,” darllenwn am dri o’r enw hwn: Gaius o Macedonia, cydymaith Paul yn Ephesus, Act. 19:29; Gaius o Derbe, Act. 20:4; a Gaius o Corinth, 1 Cor. 1:14. Nis gwyddir pwy oedd yr hwn yr ysgrifenodd Ioan ato.EPISTOL CYNTAF IOAN