1Podd yr eistedd wrthi ei hun
Y ddinas oedd lïosog o bobl!
Megys gweddw y mae hi,
Oedd lïosog ymysg cenedloedd!
Tywysoges ymysg talaethau,
Tan deyrnged y mae!
2Gan wylo wyla ar hyd y nos
A’i deigyr ar ei grudd,
Heb iddi gysurydd
O’i holl gariadau!
Ei holl gyfeillion, siomasant hi;
Aethant iddi yn elynion.
3Mudwyd Iowda o herwydd gormes,
Ac o herwydd amledd caethwasanaeth;
Hi a drig ymysg y cenedloedd,
Heb gael gorphwysfa:
Ei holl erlidwyr, goddiweddasant hi
Rhwng cyfyngleoedd.
4Ffyrdd Sïon ydynt yn galaru
Am na ddaw neb i’r uchel-wyl;
Ei holl byrth ydynt anghyfannedd,
Ei hoffeiriaid yn ocheneidio,
Ei morwynion yn drallodedig,
A hithau, chwerwder sydd iddi.
5Aeth ei gormeswyr yn ben,
Ei gelynion, ffynu a wnaethant;
O herwydd Iehofa wnaeth ei chystuddio
Am amledd ei throseddau:
Ei phlant, aethant i gaethiwed
O flaen y gormesydd;
6Ac ymadawodd â merch Sïon
Ei holl brydferthwch;
Daeth ei thywysogion fel hyddod,
Na chawsant borfa;
A cherddasant heb nerth
O flaen yr ymlidiwr.
7Cofiodd Ierusalem
Yn nyddiau ei thrallod a’i hiseliadau,
Ei holl bethau dymunol,
Y rhai oeddent er dyddiau gynt:
Pan syrthiodd ei phobl i law y gorthrymydd,
Ac heb gynnorthwywr iddi,
Edrychodd arni orthrymwyr
A chwarddasant am ei chaethiwed.
8Gan bechu pechodd Ierusalem,
Am hyny aeth ar ddisperod;
Ei holl anrhydeddwyr, diystyrasant hi,
O herwydd gwelsant ei noethni:
Ië, hi a ocheneidiodd,
Ac a drodd yn ei hol.
9Ei haflendid oedd yn ei godre,
Ni chofiodd ei diwedd;
A disgynodd yn dra rhyfedd,
Heb neb yn gysurydd iddi:
Gwel, Iehofa, fy nhrallod,
Canys ymfawrygodd y gelyn.
10Ei law a ymledodd y gorthrymydd
Dros ei holl hethau dymunol:
Canys gwelodd genedloedd,
Daethant i’w sancteiddfan,
Y rhai y gorchymynaist am danynt,
Na ddelent i’th gynnulleidfa.
11Ei holl bobl oeddent yn ocheneidio,
Yn ceisio bara;
Rhoddasant eu pethau dymunol am fwyd,
Er dadebru yr enaid:
Gwel, Iehofa, ac edrych;
Canys aethum yn ddirmygedig.
12Ai dim yw i chwi oll sy yn tramwy y ffordd?
Edrychwch a gwelwch,
A oes tristwch fel fy nhristwch,
Yr hwn a barwyd i mi?
Canys cystuddiodd fi Iehofa,
Yn nydd angerdd ei ddigofaint.
13O’r uchelder danfonodd dân i’m hesgyrn,
A threchodd arnynt;
Taenodd rwyd i’m traed,
Trodd fi yn fy ol;
Gwnaeth fi yn anrhaith,
Yr holl ddydd yn fethedig.
14Gwyliodd ar fy nhroseddau,
Gan ei law y plethwyd hwynt;
Ei iau sydd ar fy ngwddf,
Parodd fy nerth syrthio;
Rhoddodd Iehofa fi yn nwylaw gorthrymydd,
Nis gallaf gyfodi.
15Sathrodd Iehofa fy holl ddewrion
Yn fy nghanol;
Galwodd i’m herbyn gynnulleidfa
I ddryllio fy rhai dewisol;
Y gwinwryf a sathrodd Iehofa,
O ran y forwyn, merch Iowda.
16Am y pethau hyn yr wyf yn wylo;
Fy llygad! fy llygad! dwg i lawr ddwfr,
O herwydd pellhâodd oddiwrthyf ddyddanwr,
A ddadebrai fy enaid;
Mae fy meibion yn anrheithiedig,
Canys gorchfygu a wnaeth y gelyn.
17Ymledodd Sïon ei dwylaw,
Heb neb yn ddyddanwr iddi:
Gorchymynodd Iehofa am Iacob,
“Y rhai o’i amgylch, byddant ei orthrymwyr;”
Daeth Ierusalem;
Yn ddisperod yn eu canol.
18Cyfiawn yw Iehofa,
Canys ei enau a wrthwynebais;
Clywch, atolwg, bobloedd oll,
A gwelwch fy nhristwch;
Fy morwynion a’m meibion,
Aethant i gaethiwed.
19Gelwais ar fy nghariadau,
Hwy a’m twyllasant;
Fy offeiriaid a’m henafgwŷr,
Yn y ddinas y trengasant,
Tra y ceisient fwyd iddynt eu hunain,
Er dadebru eu henaid.
20Gwel, Iehofa, canys cyfyng yw arnaf,
Fy ymysgaroedd a gynhyrfwyd;
Dadymchwelwyd fy nghalon yno,
Canys gan wrthryfelu y gwrthryfelais:
Oddiallan amddifadodd y cleddyf,
Fel yr angeu yn y tŷ.
21Clywsant fy mod yn ocheneidio,
Heb neb yn ddyddanwr i mi;
Fy holl elynion, clywsant am fy nrygfyd,
Gorfoleddasant am i ti wneyd hyn,
A dwyn y dydd a gyhoeddais;
Ond byddant hwy fel finnau.
22Deued eu holl ddrwg ger dy fron;
A gwna iddynt hwy,
Yn ol yr hyn a wnaethost i mi,
Am fy holl droseddau;
Oblegid aml yw fy ocheneidiau
A’m calon sydd fethedig.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.