Iago 1 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PEN. I.

1Iago, gwas Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth ydynt ar wasgar, yn danfon anerch.

2Cyfrifwch hi yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch i amryw o brofedigaethau:

3gan wybod y gweithia profiad o’ch ffydd amynedd;

4ond caffed amynedd ei chyflawn waith, fel y byddoch yn gyflawn ac yn gyfanol, heb ddiffygio mewn dim.

5Ac os diffygiol yw neb o honoch o ddoethineb, ceisied gan Dduw, sydd yn rhoddi i bawb yn haelionus, ac heb ddannod, a rhoddir iddo;

6ond ceisied mewn ffydd, heb ammheu dim; canys tebyg yw’r hwn sy’n ammheu i dòn y môr, a ỳrir gan y gwynt ac a derfysgir.

7Na thybied y dyn hwnw y derbyn ddim gan yr Arglwydd:

8gŵr o feddwl dauddyblyg, ansefydlog yw yn ei holl ffyrdd.

9Gorfoledded hefyd y brawd o isel radd yn ei ddyrchafiad,

10a’r cyfoethog yn ei iselhad; o herwydd fel blodeuyn glaswellt y diflana;

11canys cyfyd yr haul gyda gwres, a gwywa y glaswellt, a’i flodeuyn a syrthia, a thegwch ei bryd a dderfydd; felly hefyd y diflana y cyfoethog yn ei ffyrdd.

12Dedwydd y gŵr a oddef brofedigaeth; o herwydd wedi ei brofi, derbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant.

13Na ddyweded y neb a hudir, “Gan Dduw yr hudir fi;” canys nid ellir hudo Duw â drygau, ac ni huda Efe neb.

14Ond pob un a hudir pan y tyner ef ymaith ac y llithier ef gan ei chwant ei hun.

15Yna chwant, gwedi ymddwyn, a genedla bechod; a phechod, pan orphener, a esgor ar farwolaeth.

16Na chyfeiliornwch fy mrodyr anwyl;

17pob rhodd dda, a phob rhadrodd berffaith oddiuchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dduw pob goleuni, yr hwn nid oes gydag ef gyfnewidiad na thebygolrwydd o newidio.

18O’i wir ewyllys y cenedlodd ni trwy air y gwirionedd, fel y byddem yn rhyw flaenffrwyth o’i grëaduriaid.

19Felly, fy mrodyr anwyl, bydded pob dyn yn barod i wrando, yn hwyrfrydig i lefaru, yn hwyrfrydig i ddigofaint;

20canys digofaint gŵr, ni chyflawna gyfiawnder Duw.

21Am hyny, gan roi heibio bob aflendid a gorlif drwganian, mewn addfwynder derbyniwch y gair a blanir oddifewn, yr hwn a ddichon achub eich heneidiau.

22Byddwch hefyd yn wneuthurwyr y gair, ac nid yn wrandawyr yn unig, gan wag-dwyllo eich hunain.

23Oblegid os yw neb yn wrandawr y gair heb fod yn wneuthurwr, tebyg yw efe i ŵr yn edrych ar ei wyneb naturiol mewn drych:

24canys edrychodd arno ei hun ac a aeth ymaith, ac yn y fan anghofiodd pa fath ydoedd.

25Ond yr hwn a ddyfal edrych ar ddeddf berffaith rhyddid, ac a barhâ felly,

hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond yn wneuthurwr y gair, a fydd ddedwydd yn ei waith.

26Os tybia neb yn eich plith ei fod grefyddol, heb ffrwyno ei dafod, ond yn twyllo ei galon, ofer yw crefydd hwnw.

27Crefydd bur a dihalog ger bron Duw a’r Tad yw hon, ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a chadw ei hun yn ddifrychau oddiwrth y byd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help