1PEDR, apostol Iesu Grist, at y dyeithriaid ydynt ar wasgar yn Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithynia,
2etholedig yn ol rhagwybodaeth Duw Dad, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist; — rhad a heddwch a lïosoger i chwi.
3Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, hwn yn ol ei fawr drugaredd a’n hadgenedlodd i obaith bywiol, trwy adgyfodiad Iesu Grist oddiwrth y meirw,
4i etifeddiaeth anllygradwy, a dihalogadwy, ac anniflanadwy, a gedwir yn y nefoedd i ni,
5y rhai gan allu Duw a ddiogelir trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w dadguddio yn yr amser diweddaf:
6yr hyn y gorfoleddwch am dano, er yn awr dros ychydig enyd (os rhaid hyny) yn tristâu o herwydd amryw brofedigaethau;
7fel y byddo eich ffydd, sydd lawer mwy gwerthfawr na’r aur a dderfydd er ei brofi gan dân, i fod, wedi ei phrofi, er clod ac anrhydedd a gogoniant ar ddadguddiad Iesu Grist:
8yr hwn heb ei ganfod a garwch; yr hwn, heb yn awr yn ei weled, ond yn credu, y gorfoleddwch ynddo â llawenydd annhraethadwy a gogoneddus,
9gan dderbyn cyflawniad o’ch ffydd, iachawdwriaeth eich eneidiau.
10Yr hon iachawdwriaeth yr ymofynodd ac yr ymchwiliodd am dani y prophwydi, a brophwydasant am y rhad hwn i chwi;
11gan chwilio pa bryd neu pa ryw amser yr amlygai Yspryd Crist oedd ynddynt am dano, pan y rhagdystiolaethai am ddyoddefiadau Crist a’r gogoneddiadau ar ol hyny:
12y rhai y dadguddiwyd iddynt, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, y gweinent y pethau a fynegwyd yn awr i chwi gan y rhai a bregethasant i chwi yr efengyl trwy yr Ysbryd Glân a ddanfonwyd o’r nef; yr hyn bethau y chwennycha angelion edrych arnynt.
13O herwydd hyn, gan wregysu lwynau eich meddwl a bod yn gymedrol, cyflawn obeithiwch am y rhad a ddygir i chwi ar ddadguddiad Iesu Grist;
14fel plant ufudd, heb gydymagweddu â’r chwantau blaenorol yn eich anwybodaeth;
15ond gan fod yr Hwn a’ch galwodd yn sanctaidd, byddwch chwi hefyd yn sanctaidd yn eich holl ymarweddiad;
16oblegid ysgrifenwyd, “Byddwch yn sanctaidd, o herwydd myfi, sanctaidd ydwyf.”
17A chan y gelwch ar y Tad, yr hwn a farna heb dderbyn wyneb yn ol gwaith pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad;
18gan wybod nad â phethau llygredig, arian neu aur, y prynwyd chwi oddiwrth eich ofer ymarweddiad, oedd yn ol traddodiad y tadau,
19ond â gwerthfawr waed Crist, megys Oen difeïus a difrychau;
20yr hwn yn wir a ragdrefnwyd cyn seiliad y byd, ond a amlygwyd yn yr amseroedd diweddaf er eich mwyn chwi,
21y rhai a gredwch trwyddo yn Nuw, yr hwn a’i cyfododd oddiwrth y meirw, ac a roddodd iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a’ch gobaith yn Nuw.
22Gan i chwi buro eich calonau trwy ufudd-dod i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd, o ran brawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn wresog;
23gwedi cael eich haileni, nid o hâd llygredig, ond anllygredig, trwy air Duw, sydd yn fywiol ac yn parhâu yn dragywydd:
24o herwydd pob cnawd sydd fel glaswellt, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn glaswellt; gwywa y glaswellt a syrthia ei flodeuyn;
25ond gair yr Arglwydd a erys yn dragywydd; a hwn yw y gair a bregethwyd i chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.