1Yr henuriad at bendefiges etholedig a’i phlant y rhai a garaf am y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adwaenant y gwirionedd,
2o herwydd y gwirionedd a erys ynom, ac a fydd gyda ni yn dragywydd, —
3bydded gyda chwi rad, trugaredd, a heddwch, oddiwrth Dduw Dad ac oddiwrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad mewn gwirionedd a chariad.
4Llawenhëais yn fawr o herwydd y cefais o’th blant yn rhodio yn y gwirionedd, megys ag y derbyniasom orchymyn gan y Tad.
5Ac yn awr erfyniaf arnat ti, bendefiges, — nid fel yn ysgrifenu atat orchymyn newydd, ond yr hwn a fu genym o’r dechreu, — garu o honom ein gilydd.
6A hyn yw cariad, rhodio o honom yn ol ei orchymynion. Hwn yw y gorchymyn, fel y clywsoch o’r dechreu, rhodio o honoch ynddo.
7Oblegid daeth twyllwyr lawer i mewn i’r byd, y rhai ni chyfaddefant ddyfod Iesu Grist yn y cnawd: hwn, y twyllwr yw a’r Gwrthgrist.
8Gwyliwch eich hunain, fel na chollom yr hyn a wnaethom, ond y derbyniom lawn wobrwy.
9Pwy bynag a drosedda ac na erys yn athrawiaeth Crist, nid yw Duw ganddo: yr hwn a erys yn athrawiaeth Crist, y mae ganddo ef y Tad a’r Mab hefyd.
10Os daw neb atoch, ac heb ddwyn yr athrawiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch wrtho, “croesaw;”
11canys yr hwn a ddywed wrtho, “croesaw,” cyfranoga o’i weithredoedd drwg.
12Gan fod genym lawer o bethau i’w hysgrifenu atoch, ni fwriadais wneyd hyny ar bapur ac âg inc; ond gobeithiaf ddyfod atoch a llefaru enau yn ngenau, fel y byddo yn gyflawn ein llawenydd.
13Anercha di blant dy chwaer etholedig. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.