1Simeon Pedr, gwas ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant ffydd o ogymaint gwerth â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw a’r Iachawdwr Iesu Grist, —
2Rhad a heddwch a lïosoger i chwi trwy wybodaeth o Dduw ac o Iesu ein Harglwydd.
3Gan y rhadroddodd ei allu dwyfol i ni bob peth tuag at fywyd a duwioldeb, trwy adnabyddiaeth o hono Ef a’n galwodd i ogoniant a rhinwedd;
4er mwyn yr hyn y rhadroddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr, fel y rhai y delech trwyddynt yn gyfranog o’r ddwyfol anian, gwedi ffoi oddiwrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant; —
5ïe, o herwydd hyn, gan ddefnyddio pob diwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd rinwedd, ac at rinwedd wybodaeth,
6ac at wybodaeth gymedroldeb, ac at gymedroldeb ymoddef ac at ymoddef dduwioldeb,
7ac at dduwioldeb frawdgarwch, ac at frawdgarwch, gariad.
8Oblegid y pethau hyn, os ydynt genych ac yn helaeth, gwnant chwi na byddoch yn ddiwaith nac yn ddiffrwyth yn ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
9Ond yr hwn nâd oes ganddo y pethau hyn, dall yw, yn cau ei lygaid, gwedi anghofio ei lanhâd oddiwrth ei bechodau gynt.
10O herwydd hyn, frodyr, ymdrechwch yn fwy i wneyd yn ddiogel eich galwad a’ch etholiad; oblegid os gwnewch y pethau hyn, ni syrthiwch ddim un amser:
11canys felly yn helaeth y gweinyddir i chwi ddyfodfa i deyrnas dragywyddol ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist.
12Am hyny nid esgeulusaf eich hadgoffhâu bob amser o’r pethau hyn, er eich bod yn wir yn eu gwybod, ac wedi eich cadarnhâu yn y gwirionedd presennol.
13Ond tybiaf yn iawn, tra fyddwyf yn y babell hon, eich deffroi trwy eich hadgoffhâu;
14gan wybod mai yn fuan y rhoddaf heibio fy mhabell, fel yr hysbysodd i mi hefyd ein Harglwydd Iesu Grist:
15ac ymdrechaf hefyd fel y byddo i chwi gael y pethau hyn mewn côf ar ol fy ymadawiad.
16Oblegid nid chwedlau o ddychymygion cyfrwys a ddilynasom, pan hysbysasom i chwi allu a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, ond buom yn orolygwyr o’i fawrhydi;
17canys derbyniodd gan Dduw Dad anrhydedd a gogoniant, pan ddaeth ato o’r mawrwych ogoniant y cyfryw lef a hon, “Hwn yw fy anwyl Fab, yr hwn y boddlonwyd fi ynddo:”
18a’r llef hon a glywsom yn dyfod o’r nef, pan oeddem gydag Ef ar y mynydd sanctaidd.
19Y mae genym hefyd yn fwy cadarn air y Prophwydi, yr hwn y gwnewch yn dda i ddal arno, fel ar oleu yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac y codo’r seren-ddydd yn eich calonau;
20gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un brophwydoliaeth yn yr Ysgrythyr o ddehongliad neb ei hun;
21oblegid ni ddaeth gynt brophwydoliaeth trwy ewyllys dyn; ond dynion sanctaidd Duw a lefarasent, gan gael eu harwain gan yr Ysbryd Glân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.