1Ond yr oedd gaubrophwydi hefyd ymhlith y bobl, megys ag y bydd gauathrawon yn eich plith chwi, y rhai a ddirgel-ddygant i mewn gamgredau dinystriol, gan wadu hyd yn nôd y Llywiawdwr a’u prynodd, a thynant arnynt eu hunain ddinystr buan:
2a dilyna llawer eu hanlladedd, y rhai o’u herwydd yr enllibir ffordd y gwirionedd;
3ac o gybydd-dra gwnant fasnach o honoch trwy eiriau rhagrithiol, y rhai nid yw eu barn er ys talm yn oedi, na’u dystryw yn hepian.
4Oblegid os nad arbedodd Duw yr angelion a bechasent, ond gan eu taflu i uffern, a’u rhoddodd mewn cadwynau tywyllwch i’w cadw i farn;
5ac os nad arbedodd yr henfyd, ond a gadwodd Noa yr wythfed, pregethwr cyfiawnder, pan ddygodd y dylif ar fyd o annuwiolion;
6ac os collfarnodd â dymchweliad ddinasoedd Sodom a Gomora, trwy eu troi yn lludw, gan eu gosod yn gynlluniad i’r rhai a fyddent yn annuwiol;
7ac os gwaredodd Lot gyfiawn, a flinid gan ymddygiad yr afreolus yn eu hanlladrwydd
8(canys y cyfiawn hwnw, yn trigo yn eu mysg, wrth weled a chlywed, a boenai ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd o herwydd eu gweithredoedd camweddus;) —
9yna gŵyr yr Arglwydd pa fodd i waredu y duwiol o brofedigaeth, ac i gadw yr anghyfiawn i ddydd y farn i’w cosbi,
10ac yn enwedig y rhai a ânt ar ol y cnawd yn eu chwant at aflendid, ac a ddiystyrant lywodraeth.
Rhyfygus, hunanol, ni arswydant gablu urddasau,
11pan ni wna angelion, ydynt fwy mewn nerth a gallu, ddwyn barn gableddus yn eu herbyn ger bron yr Arglwydd:
12ond y rhai’n, megys milod direswm, anianol, a wnaed i’w dal a’u dyfetha, yn cablu y pethau ni wyddant am danynt, a ddyfethir gan eu llygredd eu hunain,
13trwy dderbyn cyflog eu hanghyfiawnder. Gan y cyfrifant foethau ar hyd y dydd yn hyfrydwch, mannau a brychau ydynt;
yn ymddigryfu yn eu hudoliadau pan yn cydwledda â chwi;14yn meddu llygaid yn llawn o odineb, ac heb orphwys oddiwrth bechod; yn llithio eneidiau anwadal, a chanddynt galon wedi ymgynnefino â chybydd-dra; plant y felldith!
15Gwedi ymadael â’r ffordd uniawn, crwydrasant, gan ddilyn ffordd Balaam, mab Bosor, yr hwn a garodd gyflog anghyfiawnder,
16ond a gafodd gerydd am ei gamwedd; anifail mud, gan lefaru â llais dynol, a waharddodd ynfydrwydd y Prophwyd.
17Y rhai’n ydynt yn ffynnonau diddwfr, yn gymylau a ỳrir gan dymhestl, y rhai y cedwir iddynt gaddug y tywyllwch dros byth.
18Canys gan lefaru geiriau chwyddedig gorwagedd, llithrant trwy chwantau’r cnawd i drythyllwch y rhai a ffoisent yn gyfangwbl oddiwrth y cyfryw ag ydynt yn byw mewn cyfeiliorn;
19gan addaw iddynt ryddid, a hwy eu hunain yn weision llygredd! Canys yr hwn y gorchfygwyd neb ganddo, hwnw yr aeth hefyd yn gaethwas iddo.
20Oblegid os wedi iddynt ffoi oddiwrth halogiadau’r byd trwy wybodaeth yr Arglwydd a’r Iachawdwr Iesu Grist, y gorchfygwyd hwynt trwy ymddyrysu drachefn ynddynt, y diwedd sydd iddynt yn waeth na’r dechreu.
21Canys gwell a fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag wedi ei hadnabod, i droi oddiwrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt.
22Ond dygwyddodd iddynt yn ol y wir ddïareb, “Dychwelodd y ci at ei chwydiad ei hun; a’r hwch a olchwyd, i’r ymdreiglfa yn y llaid.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.