Habacuc 3 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD III.

1Gweddi o eiddo Habacuc y prophwyd, ar fesur yr awdlau rhyddion: —

2Arglwydd, clywais dy ymadrodd ac ofnais;

Arglwydd, dy waith!

Yn nghanol y blyneddau adfywia ef,

Yn nghanol y blyneddau gwna ef yn eglur;

Mewn digofaint cofia drugaredd.

3Duw, o Teman y daethai,

A’r Sancteiddlan o fynydd Paran: Selah:

Gorchuddiodd y nefoedd ei ogoniant,

A’i ddysgleirdeb a lanwodd y ddaear;

4A’r llewyrch, fel goleuni yr ydoedd;

Pelydrau oeddent iddo oddiwrth ei law,

Ac yno yr oedd dirgelfan ei allu:

5Oddi ger ei fron y daeth y gair,

A daeth allan oleu tanllyd odditan ei draed:

6Safodd, a mesurodd y ddaear;

Edrychodd, a gwasgarodd genedloedd;

Ymholltodd hefyd fynyddau parhaus,

Crymodd bryniau yr oesoedd:

Llwybrau’r cynfyd oeddent iddo.

7Tan adfyd y gwelais bebyll Cusan,

Dychrynodd lleni gwlad Midian.

8Ai yn erbyn afonydd, Arglwydd,

Ai yn erbyn afonydd, y cynneuodd dy lid?

Ai yn erbyn y môr dy ddigofaint,

Pan farchogaist ar dy feirch,

Yn dy gerbydau o waredigaeth?

9Gan ddynoethi dynoethaist dy fwa,

Llenwaist â saethau dy wregys; Selah;

A holltaist â ffrydiau y ddaear.

10Gwelsant di — crynodd y mynyddoedd,

Dylif dyfroedd a aeth heibio:

Dyrchafodd y dyfnder ei lef,

Yr uchelder, ei ddwylaw a gyfododd.

11Yr haul! y lleuad!

Hon a safodd, yntau a arosodd;

Er goleu i’th saethau a ehedent,

Er llewyrch i’th waewffon ddysglaer.

12Mewn digofaint y cerddaist trwy y wlad,

Mewn digder y dyrnaist genedloedd;

13Daethost allan i waredu dy bobl,

I waredu dy rai eneiniog:

Tarawaist y pen o dŷ yr anwir,

Gan ddynoethi y sylfaen oedd hyd y gwddf;

14Trywanaist â’i ffyn ei hun ben ei faesdrefydd:

Daethant fel corwynt i’m gwasgaru;

Eu llawenydd oedd megys i fwyta y tlawd yn y dirgel:

15Rhodiaist trwy y môr â’th feirch,

Gan derfysgu dyfroedd cryfion.

16Pan glywais, dychrynodd fy ymysgaroedd;

Wrth dy lef crynodd fy ngwefusau,

Pydredd a aeth trwy fy esgyrn;

Ac yn fy lle y crynaf,

O herwydd arosaf hyd ddydd yr adfyd,

Hyd esgyniad y bobl a ruthrant arnom.

17Dïau y ffigysbren ni flodeua,

Ac ni bydd cynnyrch ar y gwinwydd

Palla ffrwyth yr olewydden,

A’r meusydd, nid un a rydd gnwd;

Torir ymaith o’r gorlan y praidd,

Ac ni bydd eidion yn y beudŷ;

18Eto myfi — yn yr Arglwydd y llawenychaf,

Gorfoleddaf yn Nuw fy Ngwaredwr;

19Yr Arglwydd Dduw a fydd fy nerth,

A gwna fy nhraed fel eiddo’r ewigod,

Ac ar fy uchelderau y pâr i mi rodio.

I’r arweinydd ar y peiriannau tant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help