1Cofia, Iehofa, beth a ddaeth i ni,
Edrych a gwel ein gwaradwydd.
2Ein hetifeddiaeth, trowyd hi i estroniaid,
Ein tai i ddyeithriaid!
3Yn amddifaid yr aethom, heb dad;
Ein mamau ydynt fel gweddwon.
4Ein dwfr, am arian yr yfasom,
Ein coed, am werth y daw i ni:
5Ar ein gwarau yr erlidir ni,
Ni a flinir, nid oes i ni orphwys.
6I’r Aiphtiaid y rhoddasom law,
I’r Assyriaid, er cael ein diwallu â bara.
7Ein tadau, pechasant ac nid ydynt,
Nyni, eu cosb a ddygwn:
8Gweision a lywodraethasant arnom;
Gwaredydd, nid oes o’u llaw.
9A’n bywyd y ceisiasom ein bara,
O herwydd cleddyf yr anialwch.
10Ein croen, fel ffwrn y duodd,
O herwydd gerwinderau y newyn.
11Gwragedd yn Sion a ostyngwyd,
Morwynion yn ninasoedd Iowda:
12Tywysogion, wrth eu llaw a grogwyd;
Wynebau henafgwyr nid anrhydeddwyd.
13Y gwŷr ieuanc a gymerasant i falu,
A’r plant, tan y coed y syrthiasant.
14Yr henafgwyr, o’r porth y peidiasant;
Y gwŷr ieuanc, oddiwrth eu cerdd.
15Darfu gorfoledd eu calon,
Trodd yn alar eu pibellu,
16Syrthiodd coron ein pen,
Gwae yn awr sydd i ni o herwydd pechu.
17Am hyn llewygodd ein calon,
Am y pethau hyn tywyllodd ein llygaid —
18Am fynydd Sïon, sydd anghyfannedd,
A llwynogod a rodiasant arno.
19Ti, Iehofa, dros byth yr eisteddi,
Dy orseddfa sydd dros oesoedd:
20Pam yn barhâus yr anghofi ni,
Y gadewi ni dros hir ddyddiau?
21Dychwel ni atat, Iehofa, fel y dychwelom;
Adnewydda ein dyddiau megys cynt:
22Canys yn ddiau gan wrthod gwrthodaist ni,
Ffromaist wrthym yn ddirfawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.