1Gwinwydden ordyfol yw Israel;
Y ffrwyth a gyfateb iddi ei hun:
Yn ol amlder ei ffrwyth, yr amlhaodd allorau;
Yn ol daioni ei dir, yr harddasant ddelwau.
2Ymranodd eu calon, yn awr berni hwynt yn euog;
Efe — tor i lawr eu hallorau, dystrywia eu delwau.
3Ond yn awr dywedant, “Nid oes brenin genym,
O herwydd nid ofnasom yr Arglwydd;
A brenin — beth a all wneyd i ni?”
4Llefarasant eiriau, llwon ofer,
Wrth wneuthur cyfammod;
Felly egina farnedigaeth fel y wermod
Sydd ar hyd rhychau y maes.
5Am lo mawr Beafen
Y dychryna preswylwyr Samaria;
Canys galara drosto ei bobl,
Ei offeiriaid hefyd (am dano a orfoleddent)
O herwydd ei ogoniant, gan yr ymadawodd oddiwrtho;
6Efe hefyd i Assyria a ddygir
Yn anrheg i’r brenin cynhenus:
Gwarth a dderbyn Ephraim,
Ïe, cywilyddia Israel am ei gynghor,
7Dinystrir Samaria; ei brenin,
Bydd fel ewyn ar wyneb y dwfr:
8A dystrywir uchelfëydd Afen — pechod Israel;
Drain a mïeri a dyfant dros eu hallorau,
A dywedant wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni,”
Ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnom.”
9Er dyddiau Gibea pechaist di, Israel;
Yno y safasant:
Ni fena arnynt y rhyfel yn Gibea yn erbyn plant trawsder:
10Yn fy mwriad y mae, a cheryddaf hwynt;
A chasgla yn eu herbyn genedloedd,
Pan y ceryddwyf hwynt am eu dau anwiredd.
11Ond Ephraim — anner a ddysgwyd yw, yn caru dyrnu;
A myfi — aethum heibio iddi o herwydd harddwch ei gwddf:
“Gwnaf Ephraim i farchogaeth,
Ardda Iowda, llyfna iddo Iacob:
12Heuwch i chwi yn ol cyfiawnder,
Medwch yn ol yr hyn a ofyn trugaredd;
Braenarwch i chwi fraenar;
Yna’r pryd a fydd i geisio yr Arglwydd,
Hyd oni ddelo ac y gwlawio gyflawnder i chwi.”
13 Ond arddasoch anghyfiawnder,
Gormes a fedasoch:
Ymborthasoch ar ffrwyth twyll;
Canys ymddiriedaist yn dy ffordd dy hun,
Yn amlder dy gedyrn.
14Ond cyfyd terfysg yn mysg dy bobloedd,
A’th holl gaerfanau a ddinystrir,
Fel y dinystriodd Salman Beth-arbel;
Ar ddydd y rhyfel,
Y fam yn nghyd â’i phlant a ddrylliwyd.
15Fel hyn y gwna Bethel i chwi,
O herwydd drygedd eich drygioni:
Yn fore gan ddinystrio y dinystrir brenin Israel!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.