1Gwae i mi! canys yr ydwyf
Fel casglwyr ffrwythau haf,
Fel lloffyddion gwinllan;
Nid oes un pwng i’w fwyta,
Y cynnar ffrwyth a ddymuna fy enaid.
2Darfu am y trugarog o’r wlad,
A’r uniawn ymhlith dynion nid oes un:
Hwynt oll, am waed y cynllwynant;
Pob un a hela ei frawd â rhwyd.
3Ar wneuthur drwg y mae eu dwylaw,
Yn lle gwneuthur da;
Y tywysog a ofyn, a’r barnwr a ofyn am wobr;
Ië, y gŵr mawr a ddywed am ddymuniad ei enaid,
“Hwn ydyw;” yna cydblethant ef.
4Eu dyn da sydd fel mieren,
A’r uniawn yn waeth na pherth ddrain.
Dydd dy wylwyr, dy ymweliad, sy’n dyfod!
Yna y bydd eu dyrysni!
5Na chredwch gyfaill,
Na hyderwch mewn cydymaith;
Rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes
Cadw ddrws dy enau:
6Canys mab a anmharcha dad,
Merch a gyfyd yn erbyn ei mam,
Y waudd yn erbyn ei chwegr;
Gelynion pob un ydynt ddynion ei dŷ. —
7Ond myfi, at Iehofa y troaf fy ngolwg,
Dysgwyliaf wrth Dduw, fy ngwaredwr;
Fy ngwrandaw a wna fy Nuw.
8Na lawenha, fy ngelynes, o’m herwydd;
Er syrthio, gwnaf gyfodi;
Pan eisteddwyf mewn tywyllwch,
Iehofa a fydd yn oleuni i mi:
9Digder Iehofa a ddyoddefaf,
(O herwydd pechais yn ei erbyn)
Hyd y dadleuo fy nadl,
Ac y gwnelo farn drosof;
Yna dwg fi allan i’r goleuni,
A chaf weled ei gyfiawnder.
10Gwel hyn hefyd, fy ngelynes;
A gorchuddia hi gywilydd,
A ddywedasai wrthyf, “P’le mae Iehofa dy Dduw?”
Fy llygaid a edrychant arni;
Y pryd hyn y bydd yn sathrfa,
Megys tom yr heolydd.
11Dydd i adeiladu dy furiau!
Y dydd hwnw, ymbellheir y ddeddf;
12Y dydd hwnw, atat hefyd y deuant
O Assyria, a dinasoedd amddiffynfa,
Ac o amddiffynfa hyd afon a môr,
O fôr, ac o fynydd i fynydd.
13Eto bydd y wlad yn anghyfannedd,
O achos ei thrigolion,
O herwydd ffrwyth eu gweithredion.
14Portha dy bobl â’th ffon,
Praidd dy etifeddiaeth,
A drigant yn unig yn y goedwig.
Yn nghanol Carmel y porant,
Yn Basan a Gilead, fel yn y dyddiau gynt:
15Fel yn nyddiau dy ddyfodiad di allan o dir yr Aipht,
Paraf iddynt weled ryfeddodau;
16Gwel hwynt
y cenedloedd,A chywilyddiant o herwydd eu holl nerth;
Gosodant eu llaw ar eu genau,
Eu clustiau a fyddarant;
17Llyfant lwch fel y sarff,
Fel pryfed y ddaear dychrynant o’u llochesau;
Rhag Iehofa ein Duw yr arswydant,
Ac ofnant o’th herwydd di.
18Pwy Dduw fel tydi?
Yn dileu camwedd ac yn maddeu trosedd:
Yn erbyn gweddill ei etifeddiaeth
Ni ddeil dros fyth ei ddigofaint,
Canys yn hoffi trugaredd y mae efe:
19Dychwel a thosturia wrthym,
Gorchfyga ein camweddau;
Ië, tefli i waelodion y môr eu holl bechodau:
20Cyflawni y gwirionedd i Iacob,
Y drugaredd i Abraham,
Yr hon a dyngaist i’n tadau,
Er y dyddiau gynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.