1Ond bu yn ddrwg gan Iona, yn ddrwg iawn, ac mewn angerdd yr oedd:
2yna ymbiliodd ar Iehofa, a dywedodd, —
“Attolwg, Iehofa, onid hwn oedd fy ngair,
Pan oeddwn yn fy ngwlad?
Am hyny rhagflaenais hyn trwy ffoi i Tarsis:
O herwydd gwyddwn dy fod ti,
Dduw graslawn a thosturiol,
Yn hwyrfrydig i ddigofaint ac yn aml o drugaredd,
Ac yn edifarhâu am ddrwg:
3Ac yn awr, Iehofa, cymer, attolwg,
Fy einioes oddiwrthyf;
O herwydd gwell i mi farw na byw.”
4Yna dywedodd Iehofa, “Ai da i ti fod mewn angerdd?”
5Ac aeth Iona allan o’r ddinas, ac eisteddodd o du dwyrain i’r ddinas, a gwnaeth yno iddo ei hun gaban, ac eisteddodd tan ei gysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas.
6Darparodd hefyd Iehofa Dduw gicaion, yr hwn a dyfodd dros Iona, i fod yn gysgod uwch ei ben, er ei waredu o’i flinder: a llawenhäodd Iona â llawenydd mawr o herwydd y cicaion.
7Ond darparodd Iehofa bryfyn drannoeth, yr hwn a darawodd y cicaion fel y gwywodd.
8A phan gododd yr haul, darparodd Duw wynt poeth o’r dwyrain, a tharawodd yr haul ar ben Iona, fel y llewygodd: yna deisyfodd o ran ei einioes i farw, a dywedodd, “Gwell i mi farw na byw.”
9A dywedodd Duw wrth Iona, “Ai da i ti fod mewn angerdd o herwydd y cicaion?” Dywedodd yntau, “Da i mi fod mewn angerdd hyd farw.”
10Yna dywedodd Iehofa, —
“Arbedasid di y cicaion, yr hwn ni lafuriaist wrtho, ac ni feithrinaist, yr hwn mewn noswaith a ddaeth, ac mewn noswaith a ddarfyddodd;
11ac onid arbedaf fi Ninife, sydd ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeg myrdd o’r rhyw ddynol, y rhai na wyddant rhwng eu deheulaw a’r aswy, ac anifeiliaid lawer?”
[Y mae Dr. Fairbarn, Llywydd Coleg Newydd yr Eglwys Rydd yn Glasgow, ac awdwr Esboniad ar Lyfr Ezeciel, a dau lyfr ar y Cysgodau Ysgrythyrol, yn dadleu yn gryf yn erbyn yr hen olygiad mai anewyllysgarwch i ymddangos fel gau brophwyd oedd yn peri i Iona anfoddloni o herwydd arbediad Ninife. Wedi i’w Arglwydd wneuthur gwyrth hynod i’w anfon yno, a rhoddi iddo genadwri i gyhoeddi ei chwymp ymhen deugain niwrnod, yr oedd Iona bellach yn credu y disgynai y farn yn anocheladwy, ac yr oedd yn dysgwyl y byddai y fath arddangosiad ofnadwy o ddigofaint Duw yn erbyn Ninife falch yn effeithio yn dda ar ei genedl ei hun, yr Israeliaid gwrthgiliedig, gan y gallai yn awr ddychwel atynt gyda rheswm a fyddai yn ymaflyd yn eu hofn yn y modd cryfaf i’w cymhell i edifeirwch a sancteiddrwydd. Yr oedd arbediad Ninife gan hyny yn siomedigaeth ddwys iddo, gan y byddai i’w gydwladwyr, pan glywent yr hanes, ymwroli i fyned ymlaen yn eu pechodau oddiwrth yr amlygiad newydd hwn o drugaredd Duw; ac yr oedd ei deimlad rywbeth yn gyffelyb i’r eiddo Elias pan y ffôdd rhag Iezebel i’r anialwch, ac yn dangos nad yw ‘y rhai goreu o ddynion ond dynion ar y goreu.’ — Jonah, his Life, Character, and Mission, by Dr. Fairbarn.]
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.