1Na lawenha Israel, gan orfoledd, fel y cenedloedd;
Canys puteiniaist, gan ymadael oddiwrth dy Dduw:
Ceraist wobrau ar bob llawr yd.
2Nid y llawr-dyrnu na’r gwinwryf a’u portha;
A metha iddynt y gwin newydd.
3Ni chânt drigo yn ngwlad yr Arglwydd;
Ond dychwel Ephraim i’r Aipht,
Ac yn Assyria yr hyn sydd aflan a fwytânt.
4Ni thywalltant i’r Arglwydd win,
Ac ni bydd cymeradwy ganddo eu haberthau;
Fel bara galarwyr y byddant iddynt,
Pawb a’i bwytânt a halogir;
Dïau eu bara a fydd iddynt eu hunain,
Ni ddaw i dŷ yr Arglwydd.
5Beth a wnewch ar ddydd yr ymgynnull,
Ac ar ddydd cylchwyl yr Arglwydd?
6Canys, wele ânt ymaith rhag y dinystrydd;
Yr Aipht a’u casgla, Memphis a’u cladd hwynt:
Trysorfanau eu harian, y danadl a’u hetifedda;
Y drain a fydd yn eu pebyll.
7Daeth dyddiau yr ymweliad!
Daeth dyddiau talu’r pwyth!
Adnebydd Israel ef yn ynfyd — y prophwyd,
Yn wallgof, ddyn yr ysbryd:
O herwydd amlder dy anwiredd,
Amlhaodd hefyd y dygasedd.
8Gwyliedydd Ephraim!
Gyda’m Duw yn brophwyd!
Magl yr adarwr yw ar ei holl ffyrdd.
Yn ddygasedd yn nhŷ ei Dduw.
9Dwfn ymlygrasant fel yn nyddiau Gibea:
Cofia eu hanwiredd,
A gofwya eu pechodau.
10Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais Israel,
Fel blaenffrwyth ar y ffigysbren,
Yn eu dechreu y gwelais eich tadau:
Hwy — aethant at Baal-peor,
Ac ymroddasant i warth,
A daethant yn ffiaidd fel eu cariad.
11Ephraim fel aderyn a eheda ymaith,
Felly eu gogoniant oddiwrth enedigaeth,
Ac oddiwrth y bru, ac oddiwrth y beichiogi.
12Ond os dygant i fyny eu plant,
Eto dygaf hwynt ymaith fel na byddont ddynion:
Yn ddïau hefyd gwae hwynt!
Pan ymadawyf oddiwrthynt.
13Ephraim, yn ol yr hyn a welais yn Tyrus,
Sydd blanigyn mewn cyfanneddle:
Eto rhaid i Ephraim ddwyn allan i’r lleiddiad ei blant!
14Rho iddynt, Arglwydd — beth a roddi?
Rho iddynt fru dieppil a bronau sychion.
15Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal;
O herwydd yno y casëais hwynt:
Am ddrwg eu gweithredoedd, o’m tŷ y gyraf hwynt allan;
Ni chwanegaf eu caru;
Eu holl dywysogion ydynt wrthgilwyr.
16Tarewir Ephraim; eu gwraidd a wywa;
Ffrwyth ni ddygant; eto os cenedlant,
Lladdaf anwylion eu bru.
17Gwrthoda fy Nuw hwynt,
Am na wrandawent arno:
A byddant grwydraid yn mysg y cenedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.