1Pan lefarai Ephraim, yr oedd dychryn;
Dyrchafwyd ef yn Israel;
Ond troseddodd trwy Baal, a bu farw.
2Ac yn awr chwanegant bechu,
A gwnant iddynt dawdd-ddelw o’u harian,
Trwy eu celfyddyd, eilunod —
Gwaith y cywrain oll o hono:
O’u herwydd hwy a ddywedant,
“Aberthwch y dynion a gusanant y lloi.”
3Am hyny y byddant fel cwmwl y boreu,
Ac fel gwlith boreuol yn ymadael,
Fel us a yrir o’r llawrdyrnu,
Ac fel y mwg o’r ffumer.
4Ond myfi yr Arglwydd —
Dy Dduw a fu’m o wlad yr Aipht,
A Duw hebof fi nid adwaenit,
Neu Waredydd onid myfi.
5Myfi — adwaenais di yn y diffeithwch,
Yn nhir y sychder mawr;
6Fel yn eu porfa, pan eu digonwyd:
Digonwyd hwynt, a dyrchafodd eu calon;
O herwydd hyny anghofiasant fi.
7Ond byddaf iddynt megys llew,
Fel llewpard ar y ffordd y dysgwyliaf:
8Cyfarfyddaf â hwynt fel arth a amddifadwyd,
A rhwygaf orchudd eu calon,
A difäaf hwynt yno fel llew;
Bwystfil y maes — llarpia hwynt.
9Dy ddinystr, Israel!
Pwy yn fy erbyn a fydd yn borth i ti?
10P’le mae dy frenin yn awr,
Fel yr achubo di yn dy holl ddinasoedd?
Dy farnwyr hefyd? canys dywedaist,
“Rho i mi frenin a thywysogion:”
11Rhoddais i ti frenin yn fy nigder,
A chymerais ef ymaith yn fy nigllonedd.
12Clymwyd ynghyd anwiredd Ephraim,
Gosodwyd megys mewn dirgelfan ei bechod.
13Dirloesau un yn esgor a ddeuant arno:
Efe — mab heb ddoethineb yw,
Canys ni ddylai yn awr aros yn esgorfa’r plant.
14 Onide, o law y bedd yr achubwn hwynt,
Rhag angeu y gwaredwn hwynt;
Byddwn yn ddystryw i ti, angeu,
Byddwn yn ddifrod i ti, fedd:
Ond edifeirwch a guddir o’m golwg.
15Dïau efe — yn mysg brodyr y mae’n ffrwythlawn;
Daw dwyreinwynt, gwynt yr Arglwydd,
O’r anialwch y daw i fyny;
A sycha ei ffynnon, a dïyspydda ei darddell:
Hwn 6 a anrheithia drysorfan pob llestr dymunol.
16Euogfernir Samaria;
Canys gwrthryfelodd yn erbyn ei Duw;
Trwy’r cleddyf y syrthiant,
Eu babanod a ddryllir,
A rhwygir eu beichiogion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.