1A dywedodd yr Arglwydd wrthyf eilwaith, —
Dos, câr wraig, cariad cyfaill, ac yn odinebus,
Yn ol cariad yr Arglwydd tuag at blant Israel,
Er eu bod yn troi at dduwiau estronol,
Ac yn caru costrelau gwin.
2A phrynais hi i mi fy hun am bymtheg o arian, a homer o
3Haidd, a latac o haidd; a dywedais wrthi, —
Dyddiau lawer yr arosi am danaf;
Na phuteinia, na fydd yn eiddo neb,
Ac felly mi a fyddaf yn eiddo i ti:
4Canys dyddiau lawer yr erys plant Israel
Heb frenin ac heb dywysog,
Ïe, heb aberth, ac heb ddelw,
Heb ephod chwaith, na Theraphim.
5Wedi hyn, dychwel plant Israel,
A cheisiant yr Arglwydd eu Duw,
A Dafydd eu brenin;
Ac ofnant, o herwydd yr Arglwydd,
Ac o herwydd ei ddaioni, yn y dyddiau diweddaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.