Iago 2 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PEN. II

1Fy mrodyr, onid yw genych ffydd ogoneddus ein Harglwydd Iesu Grist gyda derbyn wyneb?

2Oblegid os daw i mewn i’ch cynnulleidfa ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, ac y daw i mewn hefyd un tlawd mewn dillad gwaelion,

3ac edrych o honoch arno ef a wisga ddillad gwychion, a dywedyd wrtho, “Eistedd di yma mewn lle da,” a dywedyd wrth y tlawd, “Saf di yna,” neu, “Eistedd yma o tan fy nhroedfainc;”

4yna oni wnewch wahaniaeth ynoch eich hunain, ac y deuwch yn farnwyr â meddyliau drwg genych?

5Gwrandewch, fy mrodyr anwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hwn a addawodd i’r rhai a’i carant?

6Ond chwi, anmharchasoch y tlawd. Oni wna’r cyfoethogion eich gorthrymu, a’ch tynu ger bron brawdleoedd?

7oni chablant yr enw da a elwir arnoch?

8Os yn wir y cyflawnwch y ddeddf freninol, yn ol yr Ysgrythyr, “Câr dy gymydog fel dy hun,” da y gwnewch.

9Ond os y derbyniwch wyneb, pechod a wnewch, gan yr argyhoeddir chwi gan y ddeddf megys troseddwyr.

10Canys y neb a gadwo’r ddeddf oll, ond a dramgwyddo mewn un rhan, euog yw o’r cyfan.

11Oblegid yr hwn a ddywedodd, “Na odineba,” a ddywedodd hefyd, “Na ladd;” ac os ni odinebi, ond eto a leddi, troseddwr wyt o’r ddeddf.

12Felly dywedwch ac felly gwnewch, fel y rhai a fernir wrth ddeddf rhyddid.

13Oblegid barn ddidrugaredd a fydd i’r hwn ni wna drugaredd: ond gorfoledda trugaredd yn erbyn barn.

14Pa fodd, fy mrodyr, os dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei achub?

15Oblegid os bydd brawd neu chwaer yn noeth ac mewn eisieu o ymborth beunyddiol,

16ac os dywed neb un o honoch wrthynt, “Ewch ymaith mewn heddwch; cynheser a digoner chwi,” ac heb roddi o honoch iddynt o anghenrheidiau’r corff, pa fudd yw?

17Felly hefyd ffydd, os na fydd ganddi weithredoedd, marw yw, pan wrthi ei hun.

18Ond dywed rhyw un, “Mae genyt ti ffydd, a chenyf finnau weithredoedd; dangos i mi dy ffydd heb dy weithredoedd, minnau a ddangosaf i ti fy ffydd trwy fy ngweithredoedd.

19Ti a gredi fod un Duw, da y gwnai; creda y cythreuliaid hefyd a chrynant.”

20Ond a fyni di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd heb weithredoedd yn farw?

21Abraham ein tad, oni chyfiawnhäwyd ef gan weithredoedd, pan offrymodd Isaac ei fab ar yr allor?

22Gweli y cydweithiai ffydd â’i weithredoedd, a thrwy weithredoedd y perffeithid ffydd.

23Cyflawnid hefyd yr Ysgrythyr a ddywed, “Credodd Abraham Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder;” a gelwyd ef yn gyfaill Duw.

24Gwelwch ynte mai trwy weithredoedd y cyfiawnhëir dyn, ac nid trwy ffydd yn unig.

25Yr un modd hefyd Rahab y butain, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan y derbyniodd y cenadon ac y danfonodd hwynt ymaith ffordd arall?

26Oblegid fel ag y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help