1Na fyddwch athrawon lawer, fy mrodyr, gan wybod y derbyniwn farnedigaeth fwy;
2canys mewn llawer o bethau y tramgwyddwn oll. Os na thramgwydda neb ar air, hwn sydd ŵr perffaith, yn gallu ffrwyno, ïe, ei holl gorff
3Wele, rhoddwn ffrwynau yn mhenau y meirch, fel yr ufuddhäont i ni, ac y troffom oddiamgylch eu holl gorff.
4Wele hefyd y llongau, er mor fawr ydynt ac y gyrer hwynt gan wyntoedd gerwin, eto tröir hwynt oddiamgylch gan lyw tra bychan, ple bynag y myno’r llywydd.
5Felly hefyd y tafod, aelod bychau yw, ond mawr ymffrostia. Wele ychydig dân, pa faint o danwydd a ennyn!
6A’r tafod, tân ydyw, byd o ddrygedd! Felly y tafod a osodwyd ymhlith ein haelodau; haloga yr holl gorff, a ffagla gylchedd anian, ac a ffaglir gan uffern.
7Pob math yn wir o wylltfilod ac o adar, o ymlusgiaid hefyd ac o fôrfilod, a ddofir ac a ddofwyd gan ddynol ryw;
8ond y tafod, ni ddichon neb dynion ei ddofi; drwg anllywodraethus yw, yn llawn o wenwyn marwol.
9Ag ef y bendithiwn Dduw a’r Tad;
10âg ef hefyd y melldithiwn ddynion a wnaed ar ddelw Duw; o’r un genau y daw allan fendith a melldith! Ni ddylai, fy mrodyr, y pethau hyn fod felly.
11A ydyw ffynnon o’r un llygad yn taflu allan y melus a’r chwerw?
12A ddichon ffigysbren, fy mrodyr, ddwyn grawn olew-wydd, neu winwydden, ffigys? Felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroew.
13Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? dangosed trwy ymarweddiad da ei weithredoedd mewn addfwynder doethineb.
14Ond os cenfigen chwerw a chynhen ydynt genych yn eich calon, na wnewch ymffrostio a chelwyddu yn erbyn y gwirionedd.
15Nid yw y ddoethineb hon yn disgyn oddiuchod; ond daearol yw, anianol a dieflig:
16canys lle mae cenfigen a chynhen, yno y mae annhrefn a phob gwaith drwg.
17Ond y ddoethineb oddiuchod sydd gyntaf yn bur, yna yn heddychlon, yn fwynaidd, yn hawdd ei thrin, yn llawn o drugaredd ac o ffrwythau da, yn ddiduedd, ac yn ddiragrith:
18o herwydd ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch gan y rhai a wnant heddwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.