1Dychwel, Israel, at yr Arglwydd dy Dduw;
Canys syrthiaist trwy dy anwiredd:
2Cymerwch gyda chwi eiriau,
A dychwelwch at yr Arglwydd;
Dywedwch wrtho,
“Yn gwbl maddeu yr anwiredd, a dyro dda
A thalwn i ti ffrwyth ein gwefusau:
3Yr Assyriaid — ni wna ein gwaredu;
Ar farch ni farchogwn;
Ac ni ddywedwn mwy,
‘Ein Duw,’ wrth waith ein dwylaw;
Oblegid genyt ti y mae tosturi i’r dïymgeledd.”
4Iachaf eu gwrthgiliad,
Caraf hwynt yn wirfoddol;
Canys trôdd fy nigder oddiwrthynt.
5Byddaf fel gwlith i Israel;
Blagura fel y lili,
Ac estyna ei wreiddyn fel Libanon;
6Ymleda ei gangenau,
A bydd fel yr olewydden ei harddwch,
Ac arogl fel Libanon a fydd iddo;
7Eistedd eisteddwyr dan ei gysgod;
Adfywiant fel yr ŷd,
A blagurant fel y winwydden;
Ei arogledd a fydd fel gwin Libanon.
8 Dywedodd Ephraim, “Beth a fynaf mwy âg eilunod?”
Myfi a atebais ac a edrychais arno, —
“Myfi — byddaf i ti fel cedrwydden flagurol;
Ac oddiwrthyf fi y ceir dy ffrwyth.”
9Pwy sydd ddoeth, fel y deallo y pethau hyn?
Yn ddeallus, fel y gwybyddo hwynt?
Canys uniawn ydynt ffyrdd yr Arglwydd:
A’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt;
Ond troseddwyr — wrthynt y tramgwyddant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.