Galarnad Ieremia 4 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD IV.

1Podd y llychwinir yr aur,

Y cyfnewidir y coethaur goreu!

Teflir allan geryg y sancteiddfan

Ymhen pob un o’r heolydd.

2Meibion gwerthfawr Sïon,

Cymharedig i aur pur,

Podd eu cyfrifir fel llestri pridd,

Gwaith dwylaw y crochenydd!

3Hyd yn nod dreigiau, tynasant allan y fron,

Rhoisant sugn i’w cenawon;

Merch fy mhobl a fu yn greulawn,

Fel yr estrysiaid yn yr anialwch.

4Glynodd tafod y plentyn sugno

Wrth daflod ei enau gan syched;

Y plant, gofynasant fara,

Rhanydd, nid oedd iddynt.

5Y rhai a ymborthent ar ddanteithion

A ddifethwyd yn yr heolydd;

Y rhai a feithrinwyd ar ysgarlad,

Cofleidiasant y tomenydd.

6A mwy a fu cosb merch fy mhobl

Na chosb pechod Sodom;

Yr hon a ddymchwelwyd mewn mynyd,

Ac ni flinwyd arni ddwylaw.

7Purach oedd ei Nasareaid na’r eira,

Gwynach na llaeth;

Gwridocach o gorff na rhuddenau,

Fel Saphir eu llyfnder:

8Duach na’r cyfnos yr aeth eu golwg,

Nid adwaenid hwynt yn yr heolydd;

Glynodd eu croen wrth eu hesgyrn,

Gwywodd, aeth fel pren.

9Gwell oedd lladdedigion y cleddyf

Na lladdedigion y newyn;

Canys y rhai’n a ddyhoenent,

Yn drywanedig, heb gnwd y maes.

10Dwylaw gwragedd tosturiol,

Berwasant eu plant;

Yr oeddent yn ymborth iddynt

Pan ddryllid merch fy mhobl.

11Cyflawnodd Iehofa ei angerdd,

Tywalltodd boethder ei ddigofaint;

Ië, cyneuodd dân yn Sïon,

A difäodd ei seiliau.

12Ni choeliasai breninoedd y ddaear,

Na holl drigolion y byd,

Y deuai gormesydd a gelyn

O fewn pyrth Ierusalem.

13O herwydd pechodau ei phrophwydi,

Ac anwireddau ei hoffeiriaid,

A dywalltent yn ei chanol hi

Waed y rhai cyfiawn, —

14Crwydrasant fel deillion yn yr heolydd;

Difwynid hwynt gan waed:

Pan nad allent lai,

Cyffyrddent â’u dillad;

15“Ewch ymaith,” “Aflendid,” a waeddent wrthynt;

“Ewch ymaith, ewch ymaith, na chyffyrddwch:”

Pan ffoisent, ie, y crwydrent,

Dywedasant ymysg y cenedloedd,

“Nid arosant mwy;

16Wyneb Iehofa, eu rhan,

Nid edrych mwy arnynt;

Wyneb eu hoffeiriaid ni pharchant,

Wrth eu henafgwyr ni thosturiant.”

17Tra eto yr oeddem, treuliai ein llygaid

Am ein cynnorthwy;

Yn ofer trwy ddysgwyl y dysgwyliasom

Wrth genedl nad allai achub.

18Helasant ein camrau,

Fel nad allem rodio yn ein heolydd;

Nesäodd ein diwedd; cyflawnwyd ein dyddiau,

Canys daethai ein diwedd.

19Buanach oedd ein hymlidwyr

Nag eryrod yr awyr;

Ar y mynyddoedd erlidient ni,

Yn yr anialwch cynllwynent ni.

20Anadl ein ffroenau, eneiniog Iehofa,

Daliwyd ef yn eu rhwydau;

Yr hwn y dywedasom, tan ei gysgod,

Y byddem byw ymysg y cenedloedd.

21Gorfoledda a llawenhâ, ferch Edom,

A drigi yn ngwlad Us!

Atat ti hefyd y daw y cwpan,

Bydd feddw ac ymnoetha.

22Terfynwyd dy gosb di, ferch Sïon;

Ni chwanegir dy gaethgludo;

Ymwêl â’th anwiredd di, merch Edom,

Caethgluda di am dy bechodau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help