Habacuc 1 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD I.

1Y baich a welodd Habacuc y prophwyd: —

2Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac ni wrandewi?

Y bloeddiaf arnat “Gormes,” ac ni waredi?

3Pam y dangosir i mi drawsder,

Ac ar orthrymder yr edrychi?

Ië, anrhaith a gormes ydynt ger fy mron,

A dadl ac ymryson sy’n cyfodi!

4Am hyn y metha y gyfraith

Ac nid ä allan farn i fuddygoliaeth,

Am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn:

Am hyn ä allan farn gamweddus.

5Gwelwch chwi ddirmygwyr,

Ië, edrychwch a synwch a rhyfeddwch;

Canys gwaith a wnaf yn eich dyddiau

Na chredwch pan fyneger ef:

6Canys wele fi yn cyffröi y Caldëaid,

Cenedl greulawn a byrbwyll,

Yr hon a gerdd trwy amgylchoedd y wlad

I feddiannu trigfanau nid ei heiddo.

7Ofnadwy ac arswydus a fydd —

O honi ei hun y daw ei hawl a’i huchelder:

8Buanach na llewpartiaid fydd ei mheirch,

Ac awchlymach na bleiddiaid yr hwyr;

Ac ymdaena ei marchogion;

Ië, ei marchogion o bell y deuant,

Ehedant fel eryr yn brysio i ddifrodi.

9Yn gwbl er anrheithio y daw;

Gogwydd ei hwyneb fydd tua’r dwyrain,

A chasgla gaethion fel y tywod.

10Breninoedd hefyd a wawdia,

A bydd tywysogion yn watwar iddi;

A phob caer a ddirmyga,

Ië, casgla lwch a goresgyna hi.

11Yna adnewydda ei hysbryd,

Ac ä trwodd, ac a drosedda:

Hwn ei dewrder yn Dduw iddi!

12Ond er cynt, Arglwydd, fy Nuw ydwyt;

Fy sancteiddydd — ni byddwn feirw.

Arglwydd, er barn y gosodaist hi,

Ac yn gadarn er ein ceryddu y gwnaethost hi.

13Glân dy lygaid, fel nad edrychi ar ddrwg,

Ac edrych ar ofid nid elli:

Pam yr edrychi ar y bradwrus,

Yr ymguddi pan mae’r annuwiol

Yn traflyncu un cyfiawnach nag ef ei hun?

14Ac y gwnai ddyn fel pysg y môr,

Fel yr ymlusgiad nad oes iddo lywydd?

15Pob un a dỳn allan â’i fach,

Casgla hwynt â’i rwyd,

Ië, cynnulla hwynt â’i fallegrwyd:

Am hyny llawenycha a gorfoledda.

16O herwydd hyn abertha i’w rwyd,

Ac arogldartha i’w fallegrwyd;

Am mai trwyddynt bydd ei ran yn fras,

A’i fwyd yn helaethlawn. —

17A gaiff efe gan hyny estyn ei rwyd,

A pharhau i ladd cenedloedd heb arbed!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help