2 Pedr 3 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PEN. III.

1Yr ail Epistol, anwyliaid, yw hwn a ysgrifenaf yn awr atoch; y rhai y deffroaf ynddynt eich meddwl didwyll trwy eich hadgoffhâu,

2fel y cofioch y geiriau a ragdraethwyd gan y prophwydi sanctaidd, a’n gorchymyn ni, apostolion yr Arglwydd a’r Iachawdwr;

3gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diweddaf watwarwyr, yn rhodio yn ol eu chwantau eu hunain,

4ac yn dywedyd, “P’le y mae yr addewid o’i ddyfodiad? canys er pan hunodd y tadau, felly erys pob peth o ddechreu y grëadigaeth.”

5Ond hyn y maent o wirfodd yn anwybodus o hono, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd gynt, ac y cydsafai y ddaear o’r dwfr ac yn y dwfr,

6y rhai y dyfethwyd trwyddynt y byd oedd y pryd hwnw, gan gael ei orchuddio gan ddwfr;

7ac y trysorir y nefoedd a’r ddaear ydynt yn awr, gan yr un gair, gan gael eu cadw i dân, erbyn dydd y farn a dystryw dynion annuwiol.

8A hyn, anwyliaid, na fyddwch yn anwybodus o hono, fod un dydd ger bron yr Arglwydd megys mil o flynyddau, a mil o flynyddau megys un dydd.

9Nid oeda yr Arglwydd ei addewid, fel y cyfrif rhai oedi; ond hir ymarhôus yw tuag atom, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.

10Ond daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos; yr hwn yr ä heibio ynddo y nefoedd gyda thwrf, a thodda’r elfenau gan boethder, a llosgir y ddaear a’r gweithiau ydynt ynddi.

11Yna gan yr ymollwng y pethau hyn oll, pa fath rai y dylech chwi oll fod mewn pob ymarweddiad sanctaidd a phob duwioldeb,

12gan ddysgwyl a thaer ddymuned dyfodiad dydd Duw; yr hwn yr ymollwng ynddo y nefoedd, gwedi eu rhoi ar dân, ac y todda’r elfenau gan boethder.

13Ond nefoedd newydd a daear newydd yn ol ei addewid, a ddysgwyliwn, y rhai y cartrefa ynddynt gyfiawnder.

14Am hyny, anwyliaid, gan y dysgwylwch y pethau hyn, ymdrechwch eich cael ganddo mewn heddwch, yn ddifannau ac yn ddifrychau

15a chyfrifwch hiramynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth: megys ag yr ysgrifenodd atoch hefyd ein hanwyl frawd Paul, yn ol y ddoethineb a roddwyd iddo,

16fel yn ei holl epistolau hefyd, gan lefain ynddynt am y pethau hyn: y rhai y mae rhyw bethau ynddynt yn anhawdd eu deall; y rhai a wyrdröa yr annysgedig a’r ansefydlog, fel yr ysgrythyrau eraill hefyd, er dinystr iddynt eu hunain.

17Chwi gan hyny, anwyliaid, gan y rhagwyddoch y pethau hyn, gwyliwch fel na syrthioch o’ch sefyllfan eich hun, trwy gael eich harwain ymaith gan amryfusedd yr afreolus:

18ond cynnyddwch yn rhad a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo y bo’r gogoniant yn awr ac yn dragywydd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help