1A dywedais, — gwrandewch attolwg, benaethiaid Iacob,
A llywodraethwyr tŷ Israel:
Onid i chwi y perthyn gwybod barn? —
2Yr ydych yn casáu’r da ac yn caru’r drwg;
Yn blingo eu croen oddi am danynt,
A’u cig oddiwrth eu hesgyrn!
3Ac o herwydd y bwytasant gnawd fy mhobl,
A’u croen oddi am danynt y blingasant,
A’u hesgyrn y drylliasant ac y briwasant,
Fel yr hyn sydd yn y crochan,
Ac fel cig sydd o fewn y badell;
4Ië, er y gwaeddant ar Iehofa,
Eto nid ateba hwynt;
A chuddia ei wyneb rhagddynt y pryd hwnw,
O herwydd yn ddrwg y gwnaethant eu gweithredoedd.
5Fel hyn y dywed Iehofa,
Am y prophwydi a ŵyrdroant fy mhobl,
Y rhai a gnoant â’u dannedd,
Ac a waeddant, “Heddwch;”
Ond y neb na roddo yn eu penau,
Darparant yn ei erbyn ryfel:
6O herwydd hyn nos fydd i chwi, heb weledigaeth;
A thywyllwch fydd i chwi, heb ddewiniaeth;
Ië, machluda’r haul ar y prophwydi,
A dua arnynt y dydd:
7Yna cywilyddia y gweledyddion,
A chythrudda y dewiniaid;
A gorchuddiant eu genau, bawb o honynt,
Gan na fydd ateb oddiwrth Dduw.
8Ond diau myfi, llawn wyf o nerth gan Ysbryd Iehofa,
O iawn-farn hefyd ac o wroldeb,
I ddatgan i Iacob ei drosedd
Ac i Israel ei bechod.
9Clywch attolwg hyn, benaethiaid tŷ Iacob,
A llywodraethwyr tŷ Israel;
Y rhai a ffieiddiant farn
A phob uniondeb a wyrdroant;
10Gan adeiladu Sïon â gwaed,
Ac Ierusalem â chamwedd!
11Ei phenaethiaid, am wobr y barnant,
A’i hoffeiriaid, am gyflog y dysgant,
A’i phrophwydi, am arian y dewinant;
Eto ar Iehofa y gorphwysant,
Gan ddywedyd, “Onid yw Iehofa yn ein canol?
Ni ddaw arnom ddrwg.”
12Am hyny, o’ch achos chwi,
Sïon fel maes a erddir,
Ac Ierusalem yn garneddau a fydd,
A mynydd y tŷ fel uchelfanau coedwig.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.