1Yr hyn a fu o’r dechreu, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylaw, am Air y bywyd
2(ac amlygwyd y bywyd, a gwelsom, a thystiolaethwn, a mynegwn i chwi, y bywyd tragywyddol, yr hwn oedd gyda’r Tad ac a amlygwyd i ni) —
3yr hyn a welsom ac a glywsom, a fynegwn i chwi, fel y caffoch chwi hefyd gymdeithas gyda ni, a’n cymdeithas ni yn wir sydd â’r Tad ac â’i Fab Ef Iesu Grist.
4A’r pethau hyn a ysgrifenwn atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
5A hon yw y genadwri, yr hon a glywsom ganddo, ac a fynegwn i chwi, mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch.
6Os dywedwn fod genym gymdeithas âg Ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddwn, ac ni ddywedwn y gwir:
7ond os rhodiwn yn y goleuni, fel ag y mae Efe yn y goleuni, y mae genym gymdeithas â’n gilydd; a glanhâ ni waed Iesu Grist ei Fab oddiwrth bob pechod.
8Os dywedwn nad oes ynom bechod, twyllwn ein hunain, a’r gwir nid yw ynom.
9Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn ydyw a chyfiawn, i faddeu i ni ein pechodau, ac i’n glanhâu oddiwrth bob anwiredd.
10Os dywedwn na phechasom, gwnawn Ef yn gelwyddog, a’i air nid yw ynom.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.