Iona 1 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD I.

1Pan ddaeth gair Iehofa at Iona, fab Amittai, gan ddywedyd,

2“Cyfod, dos i Ninife, y ddinas fawr, a gwaedda am dani, ddarfod eu drygioni ddyrchafu ger fy mron;”

3yna cyfododd Iona i ffoi i Tarsis oddi gerbron Iehofa, ac aeth i lawr i Iopa: pan gafodd long yn myned i Tarsis, a thalu ei llog, yna aeth i lawr iddi fel yr elai gyda hwynt i Tarsis oddi gerbron Iehofa.

4Ond Iehofa a yrodd wynt mawr ar y môr, fel y bu yn y môr derfysg mawr, a thybid fod y llong ar ddryllio.

5Yna ofnodd y morwyr, a gwaeddasant bob un ar ei Dduw, a bwriasant y llestri oeddent yn y llong i’r môr, er ei hysgafnhâu rhagddynt. Ond Iona aethai i lawr i ystlysau y llong, a gorweddasai, ac yr oedd yn trwm gysgu.

6Yna aeth yn agos ato y llywydd, a dywedodd wrtho, “Beth ddaeth i ti dy fod yn swrthgysgu? cyfod, galw ar dy Dduw; fe allai y llewyrcha dy Dduw arnom fel na’n coller.”

7Yna dywedasant un wrth y llall, “Deuwch a bwriwn goelbrennau, fel y gwybyddom am ba beth y daeth yr anffawd hon arnom.” Felly bwriasant goelbrenau, a syrthiodd y coelbren ar Iona.

8Yna dywedasant wrtho, —

“Mynega, atolwg, i ni, am ba beth y daeth i ni yr anffawd hon; beth yw dy alwedigaeth, ac o ba le y daethost? pwy yw dy wlad, ac o ba bobl yr ydwyt?”

9Yna dywedodd wrthynt, “Hebread ydwyf; a Iehofa, Duw y nefoedd, a ofnaf, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir.”

10Ac ofnodd y dynion âg ofn mawr; a dywedasant wrtho, “Pa fath beth yw hyn a wnaethost!” o herwydd gwyddai y dynion mai oddi ger bron Iehofa y ffoiasai efe, o herwydd mynegasai iddynt.

11Yna dywedasant wrtho, “Beth a wnawn i ti, fel y byddo y môr yn dawel i ni?” o herwydd cynhyrfu yr oedd y môr ac yn terfysgu.

12Yna dywedodd wrthynt, “Cymerwch fi, a bwriwch fi i’r môr, a thawel fydd y môr i chwi; o herwydd gwybod yr wyf mai o’m hachos i y mae y terfysg mawr hwn arnoch.”

13Ond ymdrechodd y dynion i ddychwelyd i dir, ond nis gallent, o herwydd cynhyrfu yr oedd y môr ac yn terfysgu yn eu herbyn.

14Yna galwasant ar Iehofa, a dywedasant, “Attolwg, Iehofa, na wnaer, attolwg, ein dyfetha am einioes y dyn hwn, ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion; o herwydd ti, Iehofa, yn ol yr hyn a welaist yn dda, y gwnaethost.”

15Felly’ cymerasant Iona, a bwriasant ef i’r môr, a safodd y môr oddiwrth ei gynhwrf.

16Ac ofnodd y dynion Iehofa âg ofn mawr, ac aberthasant aberth, ac addunedasant addunedau.

17A darparodd Iehofa bysgodyn mawr i lyncu Iona; a bu Iona yn mol y pysgodyn dri diwrnod a tair nos.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help