1Clywch hyn, offeiriaid,
A gwrandewch, tŷ Israel,
A thŷ y brenin, rhoddwch glust: —
Mae i chwi famedigaeth!
Am mai magl ydych yn Mispa,
A rhwyd wedi ei lledu dros Tabor.
2A’r lladdfa, yr helwyr a ddyfnhasant,
Er i mi eu ceryddu hwynt oll.
3Myfi — adwaenaf Ephraim;
Ac Israel — nid cuddiedig yw rhagof:
Dïau yn awr puteiniaist di, Ephraim,
Halogwyd Israel:
4Nid ymdrechant i ddychwelyd at eu Duw,
O herwydd ysbryd puteindra sydd o’u mewn,
A’r Arglwydd nid adwaenant.
5Ond iselhëir balchder Israel sydd yn ei wyneb;
Ïe, Israel ac Ephraim a syrthiant am eu trosedd;
Syrthia hefyd Iowda gyda hwynt:
6Gyda eu defaid a’u gwartheg,
Y deuant i geisio yr Arglwydd;
Ond nis cânt — enciliodd oddiwrthynt:
7I’r Arglwydd y buant yn anffyddlawn,
O herwydd plant estronol a genedlasant.
Yn awr difa hwynt fis ynghyd â’u rhanau.
8Chwythwch y corn yn Gibea,
Yr udgorn yn Rama,
Bloeddiwch yn Bethafen, —
Dy hiliogaeth di, Beniamin!
9Ephraim, — yn ddiffeithwch y bydd yn nydd y cerydd:
I lwythau Israel yr hysbysais yr hyn a fydd yn ddïammhau.
10Bu tywysogion Iowda fel symudwyr terfyn;
Arnynt y tywalltaf fel dwfr fy nigder.
11Gorthrymedig fydd Ephraim,
Drylliedig gan farnedigaeth,
Am rodio o’i fodd ar ol gwagedd.
12A myfi, fel gwyfyn y bu’m i Ephraim,
A fel pryf i dŷ Iowda:
13Pan welodd Ephraim ei lesgedd
A Iowda ei glwyf;
Yna aeth Ephraim at yr Assyriad,
Ïe, danfonodd at frenin cynhenus;
Ond efe nid allai eich gwella chwi,
Ac ni symudai oddiwrthych y clwyf.
14Ond myfi — fel llew y byddaf i Ephraim,
Ac fel cenaw llew i dŷ Iowda;
Myfi — myfi a larpiaf ac a ymadawaf,
Dygaf ymaith, ac ni bydd achubydd:
15Ymadawaf, dychwelaf i’m lle fy hun,
Hyd oni addefont eu bai, ac y ceisiont fy ngwyneb;
Pan ddel cyfyngder arnynt, dwys geisiant fi, gan ddywedyd, —
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.