Judas EPISTOL CYFFREDINOL JUDAS. - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)
EPISTOL CYFFREDINOL JUDAS.Brawd Iago, awdwr yr Epistol tan ei enw, oedd Judas; ac felly mab Cleopas neu Alpheus ydoedd. Ni ddywedir un peth neillduol am dano oddieithr yr hyn a draddodir i ni yn Ioan 14:21-23 Rhoddid iddo hefyd yr enwau Thadëus a Lebbëus: a gelwid ef, fel Iago, yn frawd i’n Harglwydd, o herwydd ei fod yn berthynas iddo.Mae yn amlwg yr hyn a barodd iddo ysgrifenu ei Epistol, sef ymlusgiad lladradaidd gauathrawon i’r eglwys. Bernir yn gyffredin iddo fwriadu ei Epistol er rhybudd ac annogaeth i bawb ag oeddent yn Gristionogion, Iuddewon a Chenedloedd, heb wahaniaeth, gan y cyflwyna ef i’r rhai “a sancteiddid gan Dduw Dad, ac a gedwid gan Iesu Grist.”Gwerthfawr yw yr Epistolau hyn, nid yn unig am y cynnwysir ynddynt amryw o wirioneddau mawrion yr efengyl, ond hefyd am yr amlygant i ni agwedd a chyflwr yr eglwys yn yr amser hyny. Ymddengys bod ynddi efrau o’r rhyw waethaf yn gymysg â gwenith, a llawer o hwnnw nid o’r rhyw oreu; ac felly hollol anghywir a disail yw y syniad fod rhyw berffeithrwydd anghymharol yn perthyn i’r eglwys gyntefig. Pwy a all ddarllen yr Epistolau hyn heb ganfod yn eglur mai dychymyg ofergoelus, ac nid gwirionedd, yw y fath syniad? Yr un gamsyniaeth sy’n bod ynghylch yr eglwys yn yr oesoedd cynnaraf. Ffiloregau dychymygol ydynt y rhan fwyaf o’r pethau a ddywedir am dani, na chydweddant âg amgylchiadau yr amseroedd, ac â’r hyn a gynnwys yr Ysgrythyr yn ei chylch o ran y dyddiau dyfodol.EPISTOL JUDAS.