1Podd y gwnaeth Iehofa yn ei ddigofaint
Gymylu ar ferch Sïon!
Taflodd o’r nefoedd i’r ddaear
Brydferthwch Israel;
Ac ni chofiodd leithig ei draed
Yn nydd ei ddigofaint.
2Diddymodd Iehofa, heb arbed,
Holl anneddau Iacob;
Difrododd yn ei ddigllonedd
Gaerau merch Iowda;
Tarawodd hwynt i’r ddaear,
Dymchwelodd y deyrnas a’i thywysogion.
3Torodd, yn mhoethder digofaint,
Holl gryfder Israel;
Trodd yn ol ei ddeheulaw
Oddiger wyneb y gelyn;
A llosgodd yn Iacob megys tân,
Y fflam a ddifäodd o amgylch.
4Annelodd ei fwa fel gelyn,
Safodd â’i ddeheulaw fel gorthrymydd;
A lladdodd bob dim hyfryd i’r llygad
Yn mhabell merch Sïon;
Tywalltodd fel tân ei ddigllonedd.
5Bu Iehofa megys gelyn,
Diddymodd Israel;
Diddymodd ei holl balasau,
Dinystrodd ei gaerau;
A lliosogodd yn merch Iowda
Gwynfan a galar:
6Ië, bwriodd i lawr ei argae fel argae gardd,
Dinystriodd ei gynnullfan;
Anghofiodd Iehofa yn Sïon
Yr uchel-wyl a’r Sabboth;
A dirmygodd, yn angherdd ei ddigofaint,
Y brenin a’r offeiriad.
7Taflodd Iehofa ymaith ei allor,
Gwrthododd ei sancteiddfan;
Rhoddodd yn llaw y gelyn
Fur ei phalasau;
Bloedd a roddasant yn nhŷ Iehofa,
Megys ar ddydd yr uchel-wyl.
8Bwriadodd Iehofa ddinystrio
Mur merch Sïon;
Estynodd linyn,
Ni throdd ei law rhag diddymu;
Ac anghyfanneddwyd yr amgaer a’r mur,
Ynghyd yr adfeiliasant.
9Soddodd i’r ddaear ei phyrth,
Dyfethodd a drylliodd ei barau;
Ei brenin a’i thywysogion,
Ymysg y cenedloedd y maent;
Nid oes gyfraith; ïe, ei prophwydi,
Ni chant weledigaeth oddiwrth Iehofa.
10Eistedd ar y ddaear, yn ddystaw y mae
Henuriaid merch Sïon;
Codasant lwch ar eu penau,
Gwregysasant sachlen;
Gostyngodd i’r ddaear eu penau,
Wyryfon Ierusalem.
11Treuliodd gan ddagrau fy llygaid,
Cynhyrfodd fy ymysgaroedd;
Tywalltwyd ar y ddaear fy afu,
O herwydd dryllio merch fy mhobl,
Pan lewygodd plant a’r rhai yn sugno,
Yn heolydd y ddinas.
12Wrth eu mamau y dywedent,
“Ple mae ŷd a gwin?”
Pan lewygent fel un archolledig,
Yn heolydd y ddinas;
Pan dywalltent eu henaid
Yn mynwes eu mamau.
13Beth a dystiaf i ti, beth a gystadlaf â thi,
O ferch Ierusalem?
Beth a debygaf i ti, fel y’th ddyddanwyf,
O forwyn, merch Sïon?
Canys mawr fel y môr dy ddrylliad,
Pwy a rydd feddyginiaeth i ti?
14Dy brophwydi, gwelsant erddot
Wagedd a ffolineb;
Ac ni ddynoethasant dy anwiredd
Er troi ymaith dy gaethiwed;
A gwelsant erddot
Feichiau gwagedd a lledrithion.
15Curasant o’th herwydd ddwylaw
Holl dramwywyr y ffordd;
Chwibanasant ac ysgydwasant eu pen,
O herwydd merch Ierusalem, —
“Ai hon y ddinas a alwent yn gwbledd harddwch,
Yn orfoledd i’r holl wlad!”
16Lledodd arnat eu genau,
Dy holl elynion;
Chwibanasant ac esgyrnygasant ddannedd,
Dywedasant, “Diddymasom hi;
Diau, hwn y dydd a ddysgwyliasom,
Cawsom, gwelsom ef.”
17Gwnaeth Iehofa yr hyn a benderfynodd,
Llwyr gyflawnodd ei air,
Yr hwn a orchymynodd er y dyddiau gynt;
Difrododd ac nid arbedodd;
A pharodd i’r gelyn lawenychu o’th herwydd,
Dyrchafodd gorn dy orthrymwyr.
18Gwaeddodd eu calon ar Iehofa,
“O fur merch Sion!” —
Dwg i lawr fel afon
Ddagrau ddydd a nos;
Na rydd orphwysfa i ti dy hun,
Na pheidied dylif dy lygad.
19Cyfod, bloeddia ar hyd y nos;
Ar ddechreu y gwyliadwriaethau,
Tywallt fel dwfr dy galon ger bron Iehofa;
Dyrcha ato dy ddwylaw
Am einioes dy blant, a lewygant
Gan newyn ar ben pob heol.
20Gwel, Iehofa, ac ystyria,
I bwy y gwnaethost fel hyn;
A ddylasai eu gwragedd fwyta eu ffrwyth,
Plant eu meithriniad!
A ddylasid lladd yn sancteiddfan Iehofa
Yr offeiriad a’r prophwyd!
21Gorweddodd ar lawr yr heolydd
Yr ieuanc a’r hen;
Fy morwynion a’m meibion,
Syrthiasant trwy’r cleddyf;
Lleddaist, yn nydd dy ddigofaint,
Lleddaist hwynt, ac nid arbedaist.
22Gelwaist, fel ar ddydd yr uchel-wyl,
Fy nychryniadau o’m hamgylch;
Ac nid oedd, yn nydd digofaint Iehofa,
Un diangol neu yn weddill:
Y rhai a feithrinais ac a fegais,
Fy ngelyn, dyfethodd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.