1Yna gan roi heibio bob drwg a phob twyll, a phob rhagrith, a chenfigenau, a phob absenau,
2fel plant newydd eni, chwennychwch bur laeth y gair, fel y cynnyddoch trwyddo;
3gan y profasoch fod yr Arglwydd yn haelionus.
4Yr hwn gan ddyfod ato, y maen bywiol, gwrthodedig yn wir gan ddynion, ond gan Dduw yn etholedig a gwerthfawr,
5chwi hefyd, fel meini bywiol, a adeiladwyd yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i gyflwyno aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
6Ac o herwydd hyn cynnwysir yn yr Ysgrythyr, “Wele, gosodaf yn Sïon bencongl-faen, etholedig a gwerthfawr; a’r hwn a gredo ynddo, nis cywilyddir.”
7I chwi gan hyny a gredwch y mae yn werthfawr; ond i’r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, yr hwn a ddaeth yn ben y gongl,
8a ddaeth hefyd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr; sef iddynt hwy y rhai gan fod yn anufudd a dramgwyddant wrth y gair; yr hyn beth hefyd y trefnwyd hwynt iddo:
9ond chwi ydych yn hiliogaeth etholedig, yn offeiriadaeth freninol, yn genedl sanctaidd, yn bobl brynedig, fel y mynegoch foliannau yr hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni:
10y rhai nid oeddech gynt yn bobl, ond yn awr yn bobl Dduw; y rhai ni thrugarhäwyd wrthych, ond yn awr a gawsoch drugaredd.
11Erfyniaf arnoch chwi, anwyliaid, megys dyeithriaid a phererinion, i ymgadw rhag chwantau cnawdol, y rhai a frwydrant yn erbyn yr enaid;
12gan gadw eich ymarweddiad yn hardd ymysg y cenedloedd, fel yn gymaint ag yr absenant chwi fel drwgweithredwyr, gan weled eich gweithredoedd da, y gogoneddont Dduw yn nydd eu hymweliad
13Ymostyngwch gan hyny i bob sefydliad dynol o herwydd yr Arglwydd, pa un ai i’r brenin fel y goruchaf,
14neu i’r llywiawdwyr fel wedi eu danfon ganddo er cosbi drwgweithredwyr a chymeradwyo gweithredwyr da:
15o herwydd hyn yw ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur yr hyn sydd dda ddystewi anwybodaeth dynion disynwyr;
16fel yn rhyddion, ond nid â rhyddid genych megys gorchudd dros ddrwg, ond fel gweision Duw.
17Anrhydeddwch bawb, cerwch y frawdoliaeth, ofnwch Dduw, anrhydeddwch y brenin.
18Y gweision, ymostyngwch i’ch meistriaid gyda phob ofn, nid yn unig i’r da a’r addfwyn, ond i’r anhynaws hefyd.
19Canys hyn sydd gymeradwy, os o herwydd cydwybod tuag at Dduw y goddef neb dristwch, gan ddyoddef yn anghyfiawn.
20Oblegid pa glod yw, os pan bechoch, ac y cernodier chwi, yr ymoddefwch? ond os a chwi yn gwneuthur yr hyn sydd dda ac yn dyoddef, yr ymoddefwch, hyn sydd gymeradwy ger bron Duw:
21canys i hyn y galwyd chwi; oblegid Crist hefyd a ddyoddefodd trosoch, gan adael i chwi gynlluniad, fel y dilynech ei gamrau;
22yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau;
23hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddyoddefodd, ni fygythiodd, ond traddododd ei hun i’r hwn a farna yn gyfiawn;
24yr hwn a ddygodd ei hun ein pechodau yn ei gorff ar y pren, fel y byddem ni, gwedi ein rhyddhau oddiwrth bechodau i fyw i gyfiawnder; yr hwn trwy ei gleisiau yr iachäwyd chwi:
25canys yr oeddech fel defaid yn crwydro; ond yn awr dychwelwyd chwi at Fugail ac Arolygwr eich eneidiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.