Iago EPISTOL IAGO. - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

EPISTOL IAGO.Nid Iago, brawd Ioan, ond Iago mab Cleopas, oedd ysgrifenydd yr epistol hwn. Ei fam oedd Mair, cyfnither Mair y Forwyn, fel y mae yn debygol, gan y gelwid ef yn frawd i’n Harglwydd, Gal. 1:19; o herwydd arferir brawd yn aml yn yr Ysgrythyr am berthynas agos.Bu ammheuaeth gan rai yn yr oesoedd cyntaf ynghylch yr Epistol hwn, pa un ai Iago a’i hysgrifenodd, neu rywun arall tan ei enw; ond barn gyffredin yn bresennol yw mai efe oedd ei awdwr. Un prawf neillduol o hyn ydyw, ddarfod i’r Epistol hwn ymddangos fel rhan o’r Ysgrythyr yn y Cyfieithiad Syriaeg, y cyntaf a wnaed, sef ynghylch dechreuad yr ail ganrif.Yr achos o ysgrifenu yr Epistol yn amlwg oedd, y camddefnydd a wnaed o athrawiaeth gwir rad. Nodir yr un gwyrdröad gan Paul yn Rhuf. 6, a manau eraill. Rhad, llwyr annhaeddiannol, a digonol i’r penaf o bechaduriaid, a ddirmygir ac a wrthodir gan rai; a chan eraill troir ef i benrhyddid. Yn erbyn y diweddaf yr ysgrifenodd Iago.Yn ol hanes eglwysig, cafodd Iago ei roi i farwolaeth yn y flwyddyn 62, gan y werin benboeth yn Jerusalem a gynhyrfid gan yr offeiriaid Iuddewig.EPISTOL IAGO
Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help