1 Ioan 4 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PEN. IV.

1Anwyliaid, na chredwch bob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion, pa un ai ydynt o Dduw; oblegid gaubrophwydi lawer a aethant allan i’r byd.

2Wrth hyn yr adnabyddwch yr ysbryd sydd o Dduw — Pob ysbryd yr hwn a gyfaddef ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, oddiwrth Dduw y mae;

3a phob ysbryd yr hwn ni chyfaddef ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw oddiwrth Dduw; a hwn, eiddo’r Gwrthgrist yw, yr hwn y clywsoch am dano y deuai, ac yn awr yn y byd y mae eisoes.

4Chwi, blant anwyl, o Dduw yr ydych, a gorchfygasoch hwynt; oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch na’r hwn sydd yn y byd.

5Hwy o’r byd y maent; am hyny yn ol y byd y llefarant, a’r byd a wrendy arnynt.

6Nyni o Dduw yr ydym; yr hwn a adwaen Dduw a wrendy arnom; yr hwn nid yw o Dduw ni wrendy arnom: wrth hyn yr adwaenwn ysbryd y gwirionedd ac ysbryd y cyfeiliorni.

7Anwyliaid, carwn ein gilydd; oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un ag sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac adwaen Dduw.

8Yr hwn nid yw yn caru, nid adwaen Dduw; oblegid Duw, cariad yw.

9Yn hyn yr amlygwyd cariad Duw tuag atom, o herwydd danfon o Dduw ei uniganedig Fab i’r byd, fel y byddem byw trwyddo.

10Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo Ef ein caru ni, a danfon ei Fab i fod yn Iawn dros ein pechodau.

11Anwyliaid, os felly y carodd Duw ni, dylem ninnau hefyd garu ein gilydd.

12Ni welodd neb Dduw un amser: os carwn ein gilydd, erys Duw ynom, a pherffeithiwyd ynom ei gariad.

13Wrth hyn y gwyddom yr aroswn ynddo Ef, ac Efe ynom ni, o herwydd rhoddi o hono i ni o’i Ysbryd.

14A gwelsom ni a thystiolaethwn, ddanfon o’r Tad y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd.

15Pwy bynag a gyfaddef mai Iesu yw Mab Duw, erys Duw ynddo ef, ac efe yn Nuw.

16Adwaenasom ni hefyd a chredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom: Duw, cariad yw; a’r hwn a erys mewn cariad a erys yn Nuw, a Duw ynddo ef.

17Trwy hyn y perffeithiwyd cariad ynom, fel y byddo genym hyder yn nydd y farn, o herwydd megys ag y mae Efe yr ydym ni hefyd yn y byd hwn.

18Nid oes ofn mewn cariad; ond perffaith gariad, tafl allan ofn; a’r hwn sy’n ofni, ni pherffeithiwyd ef mewn cariad.

19Carwn ni Ef, am iddo Ef yn gyntaf ein caru ni.

20Os dywed neb, “Yr wyf yn caru Duw,” ac yn casâu ei frawd, aneirwir yw; canys yr hwn ni charo ei frawd yr hwn a wêl, podd y dichon garu Duw yr hwn ni wêl?

21a’r gorchymyn hwn a gawsom ganddo, fod i’r hwn a garo Dduw garu ei frawd hefyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help