1Gweledigaeth Obadia. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Iehofa am Edom, —
“Hysbysiad a glywsom oddiwrth Iehofa,
A chenad ymysg y cenedloedd a ddanfonodd —
‘Codwch, ïe codwn yn ei herbyn i ryfel:’
2Wele bychan y’th wnaethum ymysg cenedloedd,
Dirmygedig iawn oeddyt;
3Balchder dy galon, twyllodd di,
Yr hon a anneddi yn holltau’r graig.”
Uchel ei eisteddfod, dywedodd yn ei galon,
“Pwy a’m hiselhâ i’r llawr?”
4Pe dyrchefit fel yr eryr,
A phe rhwng y ser y gwnelit dy nyth,
Oddiyno y disgynwn di, medd Iehofa.
5Pe daethai lladron atat,
Pe yspeilwyr y nos,
Pa faint y dyfethasid di?
Oni ladradasent eu digon?
Pe deuai grawnwinwyr atat,
Oni weddillent rawnwin?
6Podd y dihatrwyd Esau,
Y chwiliwyd ei guddfeydd!
7Hyd y terfyn y danfonodd di,
Holl wŷr dy gyfammod;
Twyllodd di, gorfuodd di,
Holl wŷr dy heddwch a’th fara;
Gosodasant rwyd danat. —
Nid oedd deall ganddo!
8Onid yn y dydd hwnw, medd Iehofa,
Y dyfethais hefyd y doethion o Edom,
A deall o fynydd Esau?
9Ië, dychrynwyd dy gedyrn di, Teman,
Fel y tòrid ymaith bob un
O fynydd Esau trwy laddfa.
10O herwydd gormesu dy frawd Iacob,
Gorchuddia di waradwydd,
A thòrir di ymaith dros byth.
11Yn y dydd y sefaist or tu arall,
Yn y dydd y caethgludodd estroniaid ei lu,
Ac y daeth dyeithriaid i’w byrth,
Ac ar Ierusalem y bwriasant goelbrenau,
Tydi hefyd oeddit fel un o honynt!
12Ond ni ddylesit edrych ar ddydd dy frawd,
Ar ddydd ei ddyeithriad;
Ac ni ddylesit lawenhâu o herwydd meibion Iowda,
Ar ddydd eu dystryw;
Ac ni ddylesit fawrhâu dy enau,
Ar ddydd y cyfyngder;
13Ac ni ddylesit ddyfod i borth fy mhobl,
Yn nydd eu haflwydd;
Ac ni ddylesit edrych, yn enwedig tydi,
Ar ei adfyd, yn nydd ei aflwydd;
Ac ni ddylesit gyffwrdd â’i olud
Yn nydd ei aflwydd;
14Ac ni ddylesit sefyll ar y groesffordd,
I dòri ymaith ei fföedigion;
Ac ni ddylesit amgylchu ei weddillion
Yn nydd cyfyngder
15Diau agos ddydd Iehofa
Ar yr holl genedloedd:
Fel y gwnaethost y gwneir i ti;
Dy dâl a ddychwel ar dy ben.
16Canys fel yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd,
Yr yfa yr holl genedloedd yn wastad;
Ië, yfant a llyncant,
A byddant fel pe na buasent.
17Ond ar fynydd Sïon y bydd gwaredigion,
Ac y bydd sancteiddrwydd:
Ac etifedda tŷ Iacob eu hetifeddiaethau;
18A bydd tŷ Iacob yn dân,
A thŷ Ioseph yn fflam,
A thŷ Esau yn sofl;
A chynneuant yn eu plith, a difäant hwynt,
Fel na byddo gweddill i dŷ Esau;
O herwydd Iehofa a lefarodd hyn.
19Yna etifeddant y dehau,
Ynghyda mynydd Esau,
A gwastadedd y Philistiaid;
Etifeddant hefyd faes Ephraim,
A maes Samaria a Beniamin a Gilead:
20Ië, y gaethglud, a ddechreuodd gyda meibion Israel,
A etifeddant yr hyn oedd gan y Canaaneaid hyd Sarephath;
A chaethglud Ierusalem, yr hyn sydd yn Sepharad,
Gyda dinasoedd y dehau.
21Ac esgyn gwaredyddion i fynydd Sïon,
Er barnu mynydd Esau;
Ac eiddo Iehofa fydd y freniniaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.