1At dy enau yr udgorn!
Fel eryr, yn erbyn tŷ yr Arglwydd:
O herwydd torasant fy nghyfammod,
Ac yn erbyn fy neddf y troseddasant.
2Arnaf y gwaeddant, “Fy Nuw,
Adwaenwn ni Israel dydi.”
3Bwriodd Israel ymaith ddaioni;
Y gelyn a’i hymlidia.
4Hwy a deyrnasasant, ond nid trwof fi;
Llywodraethasant, ond nis gwyddwn:
Eu harian a’u haur a wnaethant iddynt eu hun yn
ddelwau.
Am hyny torir hwynt ymaith.
5Bwria ymaith dy lo, Samaria: —
Poethodd fy nigder i’w herbyn;
Pa hyd ni oddefant lanhâd!
6Yn wir o Israel ydyw, ïe efe;
Y celfydd a’i gwnaeth ac nid Duw ydyw:
Dïau yn ddarnau y bydd llo Samaria.
7Yn ddïau gwynt a hauant,
Ond y corwynt a fedant:
Corsen ni bydd iddo;
Gronyn ni ddwg y dywysen;
Ac os dwg, estroniaid a’u llyncant.
8Llyncir Israel; yn awr byddant yn mysg y cenedloedd,
Fel llestr heb hoffder ynddo:
9Canys hwy — esgynant i Assyria;
Asyn gwyllt yn unig wrtho ei hun y bu Ephraim;
Cyflogasant gariadau.
10Ïe, am y cyflogant yn mysg y cenedloedd,
Yn awr casglaf hwynt, fel eu poener,
Dros ychydig gan faich brenin y tywysogion.
11Am yr amlhaodd Ephraim allorau er pechu,
Buont iddo allorau fel y pechai.
12Ysgrifenais iddo fawrion bethau fy neddf;
Megys peth estronol y cyfrifwyd hwynt.
13Fy aberthau! fy offrymau gwastadol!
Aberthant gig a bwytânt;
Yr Arglwydd nis hoffodd hwynt.
Yn awr y cofia eu hanwiredd,
A gofwya eu pechodau:
Hwy — i’r Aipht y dychwelant.
14Fel yr anghofiodd Israel ei Wneuthurwr,
Ac yr adeiladodd demlau;
Felly Iowda a amlhaodd ddinasoedd caerog:
Ond danfonaf dân i’w ddinasoedd,
Fel y difao ei balasau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.