1Ephraim — porthodd ar wynt,
A dilynodd y deheuwynt;
Yr holl ddydd, celwydd a difrod a amlhâ;
Ac ammod â’r Assyriaid a wnant,
Ac olew a ddygir i’r Aipht.
2Mae gan yr Arglwydd ddadl hefyd yn erbyn Iowda:
Ond wrth ymweled â Iacob yn ol ei ffyrdd,
Yn ol ei weithredoedd y dychwel iddo.
3Yn y bru y gafaelodd yn sawdl ei frawd,
Ac yn ei ymdrech gorchfygodd gyda Duw;
4Ïe, gorchfygodd ar yr angel, a llwyddodd;
Wylodd ac ymbiliodd arno.
Yn Bethel y cafai ni,
Ac yno y llefarai wrthym;
5Ïe, yr Arglwydd, Duw y lluoedd,
Yr Arglwydd yw ei gofiaeth.
6Tithau — at dy Dduw dychwel;
Trugaredd a barn cadw,
A dysgwyl wrth dy Dduw yn wastad.
7Canaan — yn ei law y mae clorianau twyll!
Gorthrymu a garodd:
8A dywedodd Ephraim, —
“Dïau ymgyfoethogais,
Cefais olud i mi fy hun;
Yn fy holl lafur ni chânt ynof
Anghywirdeb ag sydd yn bechod.”
9Ond myfi yr Arglwydd, dy Dduw o wlad yr Aipht,
A baraf i ti eto drigo mewn pebyll,
Fel yn nyddiau yr ymgynnull.
10A llefarais trwy’r prophwydi,
Ïe, myfi — gweledigaethau a amlheais,
A thrwy y prophwydi arferais gyffelybiaethau:
11Os Gilead oedd yn Afen,
Eto yn dwyllodrus y daethant yn Gilgal;
Ychain a aberthasant;
Eu hallorau hefyd ydynt
Fel carneddau ar rychau y maes.
12Pan ffôdd Jacob i wlad Aram,
Yna gwasanaethodd Israel am wraig,
Ïe, am wraig y bugeiliodd:
13A thrwy brophwyd y dygodd yr Arglwydd
Israel i fyny o’r Aipht;
A thrwy brophwyd y cadwyd ef:
14 Eto cyffrôdd Ephraim ddwys chwerwderau;
Ond ei waed — arno y gadawa,
A’i waradwydd a ddychwel ei Dduw iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.