1 Pedr 4 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PEN. IV.

1Yna gan i Grist ddyoddef trosom yn y cnawd, arfoger chwi hefyd â’r un bwriad: oblegid yr hwn a ddyoddefodd yn y cnawd a beidiodd â phechod,

2fel na byddo fyw mwyach, dros yr amser sydd yn ol yn y cnawd, i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw.

3Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’n bywyd i weithredu ewyllys y cenedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwant, gloddest, cyfeddach, dïota, ac eilunaddoliad ananianol.

4O herwydd hyn y synant, sef, am na chydredwch â hwynt i’r unrhyw ormodedd o afradlondeb, gan eich difenwi;

5y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod i farnu y byw a’r meirw.

6Canys er mwyn hyn yr efengylwyd hefyd i’r meirw, fel y barned hwynt gan ddynion yn y cnawd, ac adfywier hwynt gan Dduw trwy yr Ysbryd.

7Ond diwedd pob peth a nesäodd: am hyny byddwch gymedrol a gwyliwch i weddïo.

8Ac uwchlaw pob dim, bydded genych gariad gwresog tuag at eich gilydd, o herwydd cuddia cariad liaws o bechodau.

9Byddwch lettygar y naill i’r llall heb rwgnach.

10Pob un, megys y derbyniodd rodd, gweinyddwch yr un y naill i’r llall, fel da oruchwylwyr o rad amrywiol Duw.

11Os llefara neb, llefared megys geiriau Duw; os gweinydda neb, gweinydded megys trwy’r nerth a rydd Duw; fel ymhob dim y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; yr hwn y bo iddo y gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.

12Na synwch, anwyliaid, o herwydd y tân cyneuol sydd yn eich plith, yr hwn sydd er eich profi, fel pe dygwyddasai i chwi beth rhyfedd:

13ond gan y cyfranogwch o ddyoddefiadau Crist, llawenhëwch; fel y llawenhäoch hefyd yn orfoleddus ar ddadguddiad o’i ogoniant.

14Os gwaradwyddir chwi am enw Crist, dedwydd ydych; oblegid gorphwys arnoch Ysbryd gogoneddus Duw: ganddynt hwy yn wir difenwir Ef, ond genych chwi Efe a ogoneddir.

15Ond na ddyoddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu ymyrydd;

16ond os fel cristion, na chywilyddied, ond gogonedded Dduw o herwydd hyn;

17canys yr amser yw i’r farn ddechreu ar dŷ Dduw; ac os yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai a anufuddhânt efengyl Duw?

18ac os o braidd yr achubir y cyfiawn, p’le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur?

19Am hyny hefyd traddoded y rhai a ddyoddefant yn ol ewyllys Duw, eu heneidiau iddo Ef megys i Berchenog ffyddlawn, gan wneuthur yr hyn sydd dda.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help